English icon English
Bulldogs Boxing and Community Activities in Neath Port Talbot-2

Hwb o £800,000 i brosiectau cymunedol yn y de

£800,000 boost for south Wales community projects

Mae wyth o brosiectau cymunedol yn y de wedi derbyn cyfran o bron i £820,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu amwynderau poblogaidd i wella eu cynaliadwyedd, gan ddarparu cyfleoedd i bobl leol fel rhan o'u bywydau o ddydd i ddydd.

Y diweddaraf i gael hyd at £250,000 yw:

  • Green Squirrel CIC, Caerdydd - £154,000 i wella mynediad ac adnewyddu eu canolfan gymunedol, gan gynnwys creu gardd gymunedol
  • Canolfan Focsio a Gweithgareddau Cymunedol Bulldogs, Castell-nedd Port Talbot - £204,000 i wella eu cyfleusterau ac adeiladu ystafelloedd therapi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr
  • Glandŵr Cymru, Sir Fynwy - £225,000 i sicrhau mynediad diogel a hygyrch i bawb at lwybr y gamlas a’r cyfleuster cymunedol
  • The Include Hub, Abertawe - £148,000 i helpu i brynu eu hadeilad presennol sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned ers blynyddoedd lawer, fel lle diogel i grwpiau lleol fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl ifanc ddigartref, grwpiau rhyng-ffydd a chyn-droseddwyr
  • Clwb Chwaraeon Ponthir a'r Cylch, Torfaen - £41,000 ar gyfer system ddraenio newydd ar gyfer cae chwarae a ddefnyddir gan dros 250 o bobl rhwng 5 a 65 oed

Y diweddaraf i gael swm llai (hyd at £25,000) yw:

  • Cyfeillion Talycopa, Abertawe - £25,000 i ddatrys problemau llifogydd hanesyddol cae pêl-droed Trallwn
  • Clwb Rygbi Cil-y-coed, Sir Fynwy - £8,000 tuag at adnewyddu eu hystafelloedd ymolchi a'u cyfleusterau newid babanod
  • Llyfrgell Gymunedol Gwenfô, Bro Morgannwg - £14,000 tuag at ddisodli'r adeilad presennol gydag uned newydd i gynnwys caffi ac ystafell ddigidol

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

"Nawr, yn fwy nag erioed, mae ein cymunedau a'r cyfleusterau gwych ynddynt yn ganolfannau ar gyfer dwyn pobl ynghyd er mwyn ailadeiladu Cymru yn gryfach ac yn deg i bawb.

"Er gwaethaf yr heriau eithriadol rydyn ni wedi'u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf, mae ysbryd cymunedol a gwydnwch pobl Cymru wedi dod i'r amlwg. Bydd y cyllid Cyfleusterau Cymunedol sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn parhau i helpu i ddod â'n grwpiau lleol at ei gilydd drwy gefnogi prosiectau lleol."

Wrth siarad am yr hyn y bydd yr arian yn ei olygu iddynt, dywedodd Ceri Stilwell, Prif Weithredwr Canolfan Bulldogs yng Nghastell-nedd Port Talbot:

"Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi derbyn y cyllid hwn a fydd yn ein galluogi i ymestyn a diweddaru ein Canolfan Ddatblygu ym Mhort Talbot. Bydd hefyd yn ein galluogi i barhau i gefnogi'r gymuned mewn byd sy'n newid yn gyson drwy roi mwy o le i ni gynnig ein sesiynau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal â darparu lle diogel i gyn-filwyr barhau i dderbyn cymorth.

"Gyda'n gilydd rydyn ni'n gryfach - mwy na chlwb bocsio."

Wrth siarad am y cyllid, dywedodd Emma Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Include yn Abertawe:

"Mae'r cyllid hwn yn achubiaeth i’n helpu i dyfu, ac yn ein galluogi i feddwl yn y tymor hir. Mae'n rhoi'r hyblygrwydd inni ymateb i anghenion ein cymuned, sy’n newid yn gyson, yn enwedig yn ystod y pandemig pan fydd pobl ein hangen yn fwy nag erioed.

"Bydd y cyllid Cyfleusterau Cymunedol gwych hwn yn ein galluogi i fuddsoddi mwy o amser yn ein gwirfoddolwyr, gan wybod y bydd ganddynt sylfaen gadarn i barhau i helpu eraill ymhell i'r dyfodol. Mae ein gwasanaethau'n helpu rhai o'r unigolion sy’n cael eu camddeall fwyaf yn ein cymunedau, sy'n aml yn cael eu dal mewn troseddau o ganlyniad i flynyddoedd o drawma ac adfyd. Rydyn ni’n helpu gydag ystod enfawr o faterion fel llesiant, tlodi bwyd, dargyfeirio cynnar, cam-drin domestig, torri’r cylch o droseddu sy'n pontio'r cenedlaethau a pharatoi pobl i gael gwaith.

"Mae'r ganolfan Include yn llawn gobaith, ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl, gan helpu ei aelodau i gymryd camau tuag at newid ac adfer, torri'r cylch o droseddu a gwneud ein cymuned yn fwy diogel i bawb."

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gwahodd ceisiadau newydd drwy'r flwyddyn. Rhagor o wybodaeth yma: https://llyw.cymru/rhaglen-cyfleusterau-cymunedol-0