English icon English
Bethesda 3-2

Hwb o £700,000 i brosiectau cymunedol yn y gogledd a’r canolbarth

£700,000 boost for north and mid Wales community projects

Mae pump o brosiectau cymunedol yn y gogledd a’r canolbarth wedi derbyn cyfran o bron i £725,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y ddau ranbarth.

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu amwynderau poblogaidd i wella eu cynaliadwyedd, gan ddarparu cyfleoedd i bobl leol fel rhan o'u bywydau o ddydd i ddydd.

Y diweddaraf i gael hyd at £250,000 yw:

  • Partneriaeth Ogwen, Gwynedd - £225,000 i drawsnewid hen ysgol yn Ganolfan Ragoriaeth mewn Arloesedd a Chynaliadwyedd
  • Tabernacl Bethesda, Gwynedd - £250,000 i fedru defnyddio’r adeiladau allanol fel mannau hyblyg ar gyfer cerddoriaeth, dawns a'r celfyddydau
  • Neuadd Bentref Glangrwyne, Powys - £200,000 i greu canolfan gymunedol ar gyfer dwy gymuned gyfagos: Llangenni a Glangrwyne

Y diweddaraf i gael swm llai (hyd at £25,000) yw:

  • Ymddiriedolaeth Anne Matthews, Powys - £25,000 i wneud gwaith atgyweirio i'w hadeilad, gan gynnwys to newydd
  • Capel Stryd y Bont Hir, Powys - £25,000 i drwsio gwaith carreg, trwsio waliau a ffensys allanol, ac ailwampio eu system ddraenio

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

"Nawr, yn fwy nag erioed, mae ein cymunedau a'r cyfleusterau gwych ynddynt yn ganolfannau ar gyfer dwyn pobl ynghyd er mwyn ailadeiladu Cymru yn gryfach ac yn deg i bawb.

"Er gwaethaf yr heriau eithriadol rydyn ni wedi'u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf, mae ysbryd cymunedol a gwydnwch pobl Cymru wedi dod i'r amlwg. Bydd y cyllid Cyfleusterau Cymunedol sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn parhau i helpu i ddod â'n grwpiau lleol at ei gilydd drwy gefnogi prosiectau lleol."

Wrth siarad am y cyllid, dywedodd Phill Bowker, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Neuadd Bentref Glanrwyne ym Mhowys:

"Mae'r prosiect hwn wedi bod ar waith ers 5 mlynedd. Bydd yn golygu llawer iawn i'r ardal leol, gan greu nifer o wahanol fannau y gellir eu defnyddio mewn ffyrdd newydd a diddorol gan ystod lawer ehangach o'r gymuned. 

"Bydd y Neuadd hefyd yn dod yn fwy o ganolfan gymunedol a bydd yr ystafell 'CHaT' yn arbennig yn creu gofod anffurfiol a fydd ar gael i bobl o bob oed i alw heibio a chwrdd dros goffi. Bydd hyn yn helpu i ddod â'r gymuned yn agosach at ei gilydd a bydd hefyd yn gallu helpu i fynd i'r afael â materion fel unigedd gwledig."

Ymwelodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford â Partneriaeth Ogwen yng Ngwynedd yr wythnos diwethaf. Wrth siarad am y prosiect, dywedodd y Prif Swyddog, Meleri Davies:

"Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yr economi a chynaliadwyedd, a bydd Canolfan Cefnfaes yn cael ei datblygu gyda'r tair thema hyn mewn cof.

"Bydd y llety bync a'r unedau busnes yn dod â budd economaidd i'r ardal a bydd gan y ganolfan hefyd ystafell gymunedol amlbwrpas. Rydyn ni eisoes wedi cynllunio gofod i wneuthurwyr a chaffi trwsio ac fe fyddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol ar opsiynau ynni cynaliadwy ar gyfer yr adeilad gyda dau bwynt gwefru trydan i'w gosod cyn bo hir.

"Mae cyllid Cyfleusterau Cymunedol yn garreg filltir bwysig i'r prosiect wrth i ni godi'r arian cyfalaf i adnewyddu'r adnodd cymunedol pwysig hwn."

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gwahodd ceisiadau newydd drwy'r flwyddyn. Rhagor o wybodaeth yma:  https://llyw.cymru/rhaglen-cyfleusterau-cymunedol-0