- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
05 Awst 2021
Mae’r gwaith i gysylltu Canolfan Reoli Metro De Cymru â’r rhwydwaith rheilffyrdd yn dechrau fis nesaf, yn barod ar gyfer y fflyd newydd gwerth £150m o drenau tram Metro.
Mae’r cynllun yn cynnwys codi’r bont ffordd a chreu twnnel newydd i gysylltu’r ganolfan reoli £100m, y cyfleuster cynnal a chadw a’r depo yn Ffynnon Taf, Caerdydd, â’r rhwydwaith rheilffyrdd.
Bydd Cam 1 yn cynnwys gwaith i baratoi’r safle ar gyfer y twnnel newydd rhwng 23 Awst a 10 Rhagfyr 2021. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd Cam 2 yn golygu adeiladu’r bont newydd rhwng 10 Rhagfyr 2021 a Hydref 2022.
Bydd y gwaith hwn yn golygu cau Ffordd Bleddyn gydol hyd y gwaith, rhwng y gyffordd oddi ar Ffordd Caerdydd a’r fynedfa i faes parcio gorsaf drenau Ffynnon Taf.
Bydd y llwybr cerdded a beicio (Llwybr Taf) ar hyd y rhan hon o Ffordd Bleddyn hefyd ar gau o 25ain Hydref ymlaen. Bydd gwyriadau ar waith ar gyfer pob llwybr.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Mae gennym lawer iawn o waith i’w wneud i greu Metro De Cymru ac mae hwn yn gam hollbwysig yn y datblygiad.
“Rydyn ni’n deall bod hwn yn gyfnod hir o gau ffyrdd, ond does dim modd osgoi hyn oherwydd cymhlethdod gwaith adeiladu’r twnnel. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu.
Byddwn yn ymdrechu i weithio’n gyfrifol, gan sicrhau bod safleoedd yn cael eu rheoli’n dda a bod ein pobl yn ystyriol o gymdogion.
Bydd gorsaf drenau Ffynnon Taf yn aros ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y gwaith a bydd mynediad iddi drwy fynedfa o Ffordd Moy/Ffordd Bleddyn o’r gogledd.
Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i osod draeniau dwfn yn yr ardal tra bydd maes parcio gorsaf Ffynnon Taf yn cael ei addasu.