English icon English

Gwasanaethau arloesol newydd i atal argyfyngau iechyd meddwl

Innovative new services preventing mental health crisis

Heddiw, mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi gweld yn uniongyrchol sut y mae cyllid i wella cymorth ar gyfer pobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl yn gwneud gwahaniaeth.

Bu’r Dirprwy Weinidog yn ymweld â gwasanaeth noddfa y tu allan i oriau, yn cyfarfod â darparwyr gwasanaeth derbyniadau cymunedol iechyd meddwl a llinell gymorth argyfwng iechyd meddwl 111 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r cymorth hwn wedi elwa o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyllid ychwanegol gwerth £6m sydd wedi cael ei ymrwymo eleni i wella’r llwybr gofal argyfwng.

Dywedodd Ms Neagle: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gofal mewn argyfwng, ond mae hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu dulliau atal cynnar fel na fydd angen y gofal hwnnw ar bobl yn y lle cyntaf. Gwyddom fod gan bobl sydd mewn argyfwng ystod eang o anghenion ac na fydd angen ymyrraeth glinigol arnynt. Rydym am i bobl allu cael gafael ar y gwasanaeth cymorth sy’n addas iddyn nhw, pan a lle y bo’i angen arnynt.

Heddiw, rwyf wedi gweld enghreifftiau gwych o bobl yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu opsiynau gwahanol i wasanaethau arbenigol, ond hefyd llwybrau clir i gymorth y GIG ar gyfer y rheini sydd ei angen. Mae’r camau gweithredu hyn yn gwireddu’r ymrwymiadau allweddol yn ein Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

Dywedodd Dai Roberts, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe: "Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymrwymo i wella gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig y tu allan i oriau, gan mai dyma pryd y mae argyfyngau iechyd meddwl yn datblygu gan amlaf, a phryd y mae angen cefnogaeth ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Rydym yn croesawu cymorth Llywodraeth Cymru i’n galluogi ni i ddatblygu cynlluniau peilot fel y gwasanaeth 111 agored ar nos Wener ac ar y penwythnosau, a’r gobaith yw y gallwn ehangu’r gwasanaethau hwn i redeg pob awr o bob dydd os bydd y cyllid yn parhau.”

Dywedodd Lianne Martynski, Arweinydd Hafal yn y De a rheolwr y gwasanaeth: “Roedd yn bleser gennym groesawu’r Gweinidog i’r Noddfa Iechyd Meddwl heddiw, er mwyn iddi gyfarfod â rhai o’r bobl sydd wir wedi cael budd o’r gwasanaeth arloesol hwn.

“Pan fo pobl mewn argyfwng, mae’n hanfodol eu bod yn gallu cael gafael ar gefnogaeth ymarferol a chyfannol sy’n canolbwyntio ar y person mewn amgylchedd sy’n gyfforddus ac yn therapiwtig. Dyna’n union y mae’r Noddfa yn ei ddarparu.

“Mae’r effaith y mae’r gwasanaeth yn ei chael eisoes yn glir: mae cleientiaid wedi derbyn ystod o ymyriadau ac wedi cael eu cyfeirio at ofal a thriniaeth barhaus, sydd wedi lleihau’r angen am orfod mynd i’r ysbyty ac wedi lleihau’r risg o niwed i’r bobl yn yr ardal.”

Dywedodd James Shaughnessy, Pennaeth y Gwasanaeth Ambiwlans, Ambiwlans Sant Ioan Cymru:

“Fel prif elusen cymorth cyntaf Cymru, ein nod yw gwella iechyd a lles cymunedau ar draws Cymru.”

“Rydyn ni wrth ein boddau cael bod yn rhan o’r bartneriaeth arloesol hon gyda Llywodraeth Cymru ac rydym wedi ymrwymo i wella profiad y claf yn y gymuned drwy ddarparu trafnidiaeth brydlon ac addas i bawb sydd dan ein gofal.”

Nodiadau i olygyddion

The Deputy Minister visited the following services and projects:

 

The Mental Health Sanctuary Service - Llansamlet

A brand new service provided by mental health charity Hafal in collaboration with Swansea Bay University Health Board. It was developed by the West Glamorgan Regional Partnership, which is a multi-agency group, involving health, local authorities, police, ambulance and service users and carers.

Open from 6pm to 2am, 7 days a week, 365 days a year, it aims to help tackle stress and/or anxiety, low mood, financial worries as well as being a refuge for those suffering from domestic violence or deteriorating mental health as a result of a range of factors or difficulties or anxieties relating to the Coronavirus pandemic.

The Sanctuary recently re-opened for face-to-face services after providing an alternative telephone service during the Covid pandemic. Hafal Mental Health Sanctuary Service - Hafal

The Deputy Minister met representatives from the Sanctuary and representatives from the West Glamorgan Regional Partnership who developed it.

St John Ambulance Cymru assistance with mental health community admissions

St John Ambulance Cymru take patients to the service they need when the regular ambulance service is receiving high level of demand, to ensure a timely and patient-friendly alternative to other forms of transports, including police vehicles.

The Deputy Minister met St John crew and operational team at Neath Port Talbot hospital.

Think 111 for Mental Health

Welsh Government has also provided funding  to deliver a 24/7 single mental health point of contact thought the 111 helpline in all seven health boards by April next year.

The Deputy Minister met members of the local and national Think 111 for Mental Health team at Neath Port Talbot hospital.