- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
01 Tach 2023
Beth am gael eich ysbrydoli gan dros 100 milltir o deithiau cerdded o orsafoedd rheilffordd ledled Cymru gydag ap cerdded a llesiant Go Jauntly sydd ar gael yn rhad ac am ddim.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Go Jauntly i greu 33 o lwybrau cerdded wedi’u harwain gan luniau yn Gymraeg ac yn Saesneg i’n gorsafoedd rheilffordd ac oddi yno, gan dynnu sylw at wahanol lefydd o ddiddordeb ar hyd y ffordd.
O Sir Benfro i Sir Gaerfyrddin, Powys i Gonwy a Wrecsam i Gaerdydd mae teithiau cerdded ar draws y wlad wych hon i bawb eu mwynhau; taith gerdded berffaith ar gyfer hanner tymor - https://walks.gojauntly.com/users/transportforwales
Mae llawer o safleoedd treftadaeth ar hyd y llwybrau hefyd, felly beth am fanteisio i’r eithaf ar gynnig Cadw 2 docyn am bris 1. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno tocyn trên TrC dilys; mae plant hefyd yn teithio am ddim gydag oedolyn sy’n talu am docyn ar ein trenau.
Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio 33 o deithiau cerdded newydd o’n gorsafoedd trenau ledled Cymru, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn annog pobl i archwilio ein cymunedau gwych a’r awyr agored.
“Gyda dros 100 milltir o lwybrau cerdded ar gael a phob un ar gael drwy ap, rydyn ni’n cefnogi twristiaeth gynaliadwy a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”
Dywedodd Hana Sutch, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Go Jauntly:
“Mae mor gyffrous cyhoeddi bod Go Jauntly yn ehangu i Gymru ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i annog mwy o bobl i archwilio’r wlad hyfryd hon. Mae teithiau trên ac anturiaethau epig yn yr awyr agored ar droed yn mynd law yn llaw, ac ni allwn aros i ddefnyddwyr grwydro Cymru drwy ddilyn un o’n 33 o lwybrau cerdded.”
Mae Go Jauntly yn darparu llwyfan cymunedol sydd wedi ennill gwobrau i hyrwyddo cerdded ar gyfer hamdden, teithio llesol a chreu cysylltiad â natur. Mae’r ap addas i deuluoedd ar gael am ddim i bob defnyddiwr ar iOS ac Android.
Lawrlwythwch yr ap cerdded am ddim er mwyn cael gwyddoniadur maint poced o deithiau cerdded trefol, yma:
App Store: https://apps.apple.com/us/app/go-jauntly-discover-walks/id1150399087