- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
24 Hyd 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi newidiadau i wasanaeth bws yn lle trên Abermaw oherwydd gorfod cau ffyrdd ddechrau mis Tachwedd.
Bydd Stryd yr Eglwys yn Abermaw yn cau am wyth wythnos o ddydd Llun 6 Tachwedd er mwyn i Ddŵr Cymru gwblhau atgyweiriadau i garthffos a ddifrodwyd.
Ar hyn o bryd, mae'r ffordd yn rhan o'r llwybr gwasanaeth bws yn lle trên TrC sy'n rhedeg rhwng Machynlleth a Phwllheli tra bod Network Rail yn gwneud gwaith ar Bont Abermaw.
Y prif ddargyfeiriad drwy'r dref fydd drwy'r Cei ond oherwydd pont isel, ni all y bysiau bws yn lle trên mwy o faint sy'n rhedeg y gwasanaeth bws yn lle trên ar hyn o bryd deithio ar hyd y llwybr hwn.
Felly, dyma fydd y newidiadau i'r gwasanaeth bws yn lle trên:
- Bydd y gwasanaethau lled-gyflym rhwng Machynlleth ac Abermaw yn cael eu gweithredu gan fathau eraill o gerbydau fel y gallant deithio ar hyd llwybr y dargyfeiriad drwy'r Cei. Bydd y daith hon yn cymryd 10 munud yn hirach gan fod y cerbyd a ddefnyddir yn arafach.
- Bydd gwasanaethau lled-gyflym rhwng Abermaw a Phwllheli yn parhau i gael eu gweithredu gan y bysiau.
- Bydd cysylltiad bws 10 munud o hyd yn cael ei drefnu ar gyfer Abermaw a bydd cydlynydd bysiau ar gael i gynorthwyo gyda’r cysylltiadau hyn.
- Bydd yr amser y bydd y bws yn cyrraedd ac yn gadael Machynlleth yn parhau i fod yr un fath a'r amseroedd a ddiwygiwyd ymlaen/yn ôl oddi yno gan mai dyma'r lleoliad i gysylltu â thrên.
Dywedodd Ben Clifford, rheolwr trafnidiaeth ffordd TrC: “Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol a'n darparwyr bysiau i geisio lleihau unrhyw darfu ar ein gwasanaeth bws yn lle trên tra bydd y ffordd hon ar gau.
“Rydym yn hyderus bod y cynllun sydd gennym ar gyfer y cyfnod yn un cadarn a bydd gennym staff ychwanegol ar y llwybr i helpu teithwyr sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn hefyd.
“Oherwydd y newidiadau rydym yn annog teithwyr i wirio am yr wybodaeth deithio ddiweddaraf cyn teithio.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i Gwybodaeth Teithwyr | TrC