- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
07 Rhag 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn annog cwsmeriaid i wirio cyn teithio dros y dyddiau nesaf, gan mai'r tebygolrwydd yw y bydd Storm Barra yn effeithio ar y rhwydwaith reilffyrdd o ddydd Mawrth 7 Rhagfyr (0600).
Mae amserlen ddiwygiedig, i ystyried cyfyngiadau cyflymder angenrheidiol ar draws cymru, yn disodli'r amserlen arferol tan ddiwedd y gwasanaeth ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021. Gan ddibynnu ar y math o effaith a gaiff Storm Barra ar y rhwydwaith, mae'r amserlen yn destun newidiadau munud olaf.
Ar hyn o bryd, mae TrC gam i ffwrdd o rybuddio cwsmeriaid i ond wneud teithiau hanfodol ar eu gwasanaethau. Y teimlad yw y bydd yr effaith â gaiff Storm Barra yn debyg i'r effaith â gafodd Storm Arwen. Gwelodd y storm honno oddeutu 40 digwyddiad o draciau yn cael eu blocio gan goed wedi cwympo a difrodi 12 trên, y mae llawer ohonynt yn dal i gael eu hatgyweirio.
Mae Network Rail wedi rhoi cyfyngiad cyflymder o 40mya ar y mwyafrif o linellau yng Nghymru yn ystod y storm i sicrhau diogelwch, ond mae hyn yn golygu y bydd teithiau'n cymryd llawer mwy o amser ac na fyddai'r amserlen gyfredol yn gweithio. Felly mae staff TfW wedi creu amserlen storm arbennig i geisio cadw cymru i symud ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Yn siarad cyn cyflwyno'r amserlen argyfwng, dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC:
“Gofynnwn i bob cwsmer o leiaf wirio cyn teithio ddydd Mawrth a dydd Mercher gan y bydd yr amserlen storm arbennig yn disodli ein hamserlen arferol. Golyga hyn y bydd cryn dipyn o'n gwasanaethau naill ai'n gweithredu ar wahanol adegau, yn cymryd mwy o amser i gyrraedd cyrchfannau neu ni fyddant yn rhedeg o gwbl.
“Diogelwch cwsmeriaid sydd wrth wraidd popeth a wnawn ac er ein bod yn deall y gallai hyn achosi anghyfleustra i rai, mae gwyntoedd cryf a phatrymau tywydd eithafol yn golygu bod yn rhaid i ni roi'r trefniadau dros dro hyn ar waith. Hoffwn ddiolch ymlaen llaw i'n holl gwsmeriaid am eu dealltwriaeth."
Gyda disgwyl y bydd cyflymder y gwynt mewn rhai rhannau o Gymru yn cyrraedd 70mya, mae risg uchel iawn y gall malurion a choed ddifrodi llinellau uwchben a thraciau.
Dywedodd Rachel Heath, Pennaeth Cyflenwi Gweithrediadau Network Rail Cymru a'r Gororau:
“Gyda Storm Barra ar y ffordd rydym yn rhoi cyfyngiadau cyflymder ar waith ar draws sawl rhan o Gymru a'r Gororau i gadw teithwyr yn ddiogel rhag malurion a choed ar y lein.
“Bydd ein timau o beirianwyr ymroddedig yn gweithio ddydd a nos i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau a chadw teithwyr i symud.”