English icon English
JH-3

“Nid cyfrifoldeb menywod yw’r troseddau hyn. Mae’r cyfrifoldeb i gyd ar ysgwyddau’r dynion sy’n eu cyflawni.” Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt wrth drafod sbeicio.

“The onus of these crimes does not fall on the women. It falls squarely on those men who commit them.” Minister for Social Justice Jane Hutt on spiking.

Mewn datganiad i’r Senedd ynghylch sbeicio y prynhawn yma, amlinellodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt ddyhead pendant Llywodraeth Cymru i newid y naratif ar drais yn erbyn menywod, a sicrhau bod y ffocws ar y troseddwyr a’r unigolion sy’n cyflawni’r troseddau ofnadwy hyn.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

I ddechrau, gadewch i mi ddweud yn glir nad oes cyfrifoldeb ar fenywod i newid eu hymddygiad, y rhai sy’n cam-drin ddylai newid eu hymddygiad eu hunain. Nid cyfrifoldeb menywod yw’r troseddau hyn. Mae’r cyfrifoldeb i gyd ar ysgwyddau’r dynion sy’n eu cyflawni.

Yn ail, i’r rhai sy’n adnabod y troseddwyr. Os ydych chi’n adnabod neu’n gweld person sy’n cyflawni’r troseddau hyn mae dyletswydd foesol arnoch chi i hysbysu’r awdurdodau cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny. 

Mae dyletswydd arnom ni i gyd yn ein cymunedau i herio ymddygiad amhriodol a chynnig cymorth pan fo’n ddiogel gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys grymuso dynion i drafod gyda dynion a bechgyn eraill i herio ymddygiad rhywiaethol a cham-drin ymysg eu ffrindiau, eu cydweithwyr a chymunedau i hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch."

Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud:

“Rydyn ni’n deall pryderon gwirioneddol menywod a merched ifanc am eu diogelwch, yn arbennig mewn lleoliadau gyda’r nos. Dyna pam rydyn ni’n cryfhau ein Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i gynnwys trais ac aflonyddu yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref.

Yn ei hanfod, mae’r strategaeth ddiwygiedig yn cydnabod bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn broblem gymdeithasol sydd angen ymateb cymdeithasol. Er mwyn mynd i’r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod, mae angen gweithredu ar ddau ben y sbectrwm; rhaid i ni gefnogi’r goroeswyr a dwyn y troseddwyr i gyfrif ond rhaid i ni hefyd sicrhau newid gwirioneddol mewn ymddygiad. Dyna sut fyddwn ni’n herio’r agweddau negyddol llechwraidd tuag at fenywod sy’n gallu arwain at weithredoedd fel sbeicio. 

Drwy gydweithio fel cymuned, a sicrhau ein bod yn atal troseddwyr rhag cyflawni’r gweithredoedd ofnadwy hyn, gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau mai Cymru yw’r man mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod.”