English icon English

Newidiadau i gontract meddygon teulu i wella mynediad i apwyntiadau

Changes to GP contract to improve access to appointments

Heddiw (1 Rhagfyr), cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan newidiadau newydd i'r contract meddygon teulu i helpu i wella mynediad at apwyntiadau.

Bydd y newidiadau, sy'n cael eu cefnogi gan £12m o fuddsoddiad ychwanegol, yn dod â sgramblo'r bore i ben i drefnu apwyntiad. Bydd y contract diwygiedig yn ei gwneud yn glir nad yw'r arfer o ryddhau apwyntiadau bob dydd am 8am yn dderbyniol mwyach.

Yn hytrach, bydd yr ymrwymiad newydd i gael mynediad i feddygon teulu yn helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu brysbennu'n briodol ac os oes angen apwyntiad, mae pobl yn cael un, sy'n iawn ar gyfer eu hanghenion clinigol.

Lle y bo'n briodol, gellir cyfeirio pobl at wasanaeth arall – neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol – a all eu helpu neu eu cefnogi.

Bydd cytundeb contract newydd y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) hefyd yn cynnwys codiad cyflog o 3% ar gyfer meddygon teulu a staff practis a chyllid ychwanegol i gynyddu capasiti a staffio i helpu i ymateb i bwysau'r gaeaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Rydym yn gwybod bod meddygon teulu a'u staff dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd. Maent wedi chwarae rhan bwysig iawn yn ystod y pandemig.

Felly, rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu cytuno ar gontract newydd sy’n gwobrwyo’r holl staff sy’n gweithio o fewn practisau meddygon teulu drwy roi codiad cyflog iddynt.

“Rydyn ni hefyd wedi cytuno ar ffordd ymlaen i wella’r system apwyntiadau. Rydw i am weld diwedd ar y dagfa 8am lle mae’n rhaid i gleifion ffonio eu practis dro ar ôl tro i gael apywntiad.

“Bydd y cyllid ychwanegol hwn a gyhoeddwyd heddiw yn cefnogi practisau meddygon teulu i feithrin capasiti a rhoi systemau mwy effeithlon ar waith ar gyfer trefnu apwyntiadau er mwyn rheoli anghenion cleifion yn well. Rydw i hefyd wedi cyhoeddi £2m yn ychwanegol i helpu i leddfu’r pwysau uniongyrchol y mae ein meddygon teulu yn ei wynebu y gaeaf hwn.”

Bydd y £4m o gyllid ychwanegol ar gael i feddygon teulu am y tair blwyddyn ariannol nesaf i sicrhau bod y capasiti ychwanegol yn cael ei gadw, ac i gefnogi’r ymrwymiad a wnaed ynghylch mynediad at wasanaethau.

Ychwanegodd Ms Morgan: “Fel llywodraeth, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi meddygon teulu sy’n gweithio mor galed, ac rwy’n annog y cyhoedd i ddilyn y cyngor ‘Helpwch Ni i’ch Helpu Chi’ drwy ystyried ffyrdd eraill o gael cyngor a chymorth meddygol y gaeaf hwn. Gall y gwasanaeth 111 ar-lein a'ch fferyllfa leol roi cyngor ar salwch a chyflyrau meddygol nad ydynt yn achosion brys.”

Dywedodd Nick Wood, cyfarwyddwr gweithredol, gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac iechyd meddwl, Aneurin Bevan: “Rydym yn falch bod y cytundeb teirochrog hwn wedi’i gytuno, sy’n cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad holl staff practisau meddygon teulu. Mae’r codiad cyflog o 3% ar gyfer pob meddyg teulu ac aelodau o staff practisau yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi’r gweithlu, a chynaliadwyedd y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu.

Bydd y trefniadau ehangach, gan gynnwys ymrwymiad ar y cyd i wella mynediad at wasanaethau a’r buddsoddiad mewn capasiti staffio, yn galluogi byrddau iechyd i weithio’n agos gyda phractisau meddygon teulu a gwella’r gwasanaeth mewn ffordd sydd o fudd i gleifion mewn cyfnod heriol iawn.”

Dywedodd Dr Phil White, Cadeirydd GPC Cymru:

“Rydyn ni’n falch bod ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi arwain at y cytundeb hwn, a’r gobaith yw y bydd yn gwneud llawer i gefnogi practisau sydd dan bwysau mawr.

“Rydyn ni’n credu bod Llywodraeth Cymru yn deall yr her enfawr y mae practisau meddygon teulu yn ei hwynebu, ac rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu gwell yn y dyfodol.”