- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
11 Tach 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi datgelu dyluniad newydd ar un o'i drenau blaenllaw i gefnogi hosbisau Hope House a Tŷ Gobaith sydd wedi’u lleoli yng nghanol a gogledd Cymru.
Mae Hope House a Tŷ Gobaith yn darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n peryglu bywyd, a'u teuluoedd sydd o chanol a gogledd Cymru. Mae hefyd yn cynnwys gofal seibiant ac argyfwng, gofal diwedd oes, a chymorth cwnsela a phrofedigaeth.
Pleidleisiodd aelodau’r cyhoedd, trwy gyfrif Twitter TrC, dros dair elusen yr hoffent weld y sefydliad yn eu cefnogi trwy frandio nifer o’r trenau. Dyma'r elusennau a ddewiswyd:
- Hope House & Tŷ Gobaith
- RNLI (elusen bad achub)
- Cymdeithas Alzheimer Cymru (elusen dementia)
Mae set o gerbydau Mark IV y mae TrC newydd eu cyflwyno i'r gwasanaeth wedi'u haddurno gyda brand dwyieithog Hope House a Tŷ Gobaith. Pan fydd trên Tŷ Gobaith yn gwneud ei ffordd ar hyd rhwydwaith Cymru a'r Gororau, credir y bydd y nifer y bobl y bydd yn gweld y trên cymaint a channoedd o filoedd, yn enwedig gan fod mwy a mwy o bobl yn dychwelyd i deithio ar drenau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Pobl a Newid TrC, Bethan Jelfs: "Mae elusen Hope House a Tŷ Gobaith yn elusen fendigedig sydd wir yn cael effaith ar gymaint o blant a theuluoedd, yn aml ar yr adegau mwyaf heriol. Mae Trafnidiaeth Cymru yn hynod o falch o allu cefnogi'r elusen anhygoel hon.
“Edrychaf ymlaen at weld trên Hope House a Tŷ Gobaith yn teithio ar hyd ein rhwydwaith o amgylch Cymru a thu hwnt a gobeithio y bydd y cannoedd o filoedd o bobl a fydd yn gweld y trên yn cefnogi'r elusen."
Ychwanegodd Simi Epstein, Cyfarwyddwr Codi Arian yr elusen: “Roeddem wrth ein boddau o gael ein dewis i ymddangos ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru. Rydym eisoes yn cael llawer o alwadau gan deuluoedd sy'n llawn cyffro am eu bod wedi gweld ein logo yn teithio trwy eu gorsafoedd lleol.
“Diolch yn fawr iawn i Drafnidiaeth Cymru am ein gwahodd i fod yn rhan o’r hyrwyddiad newydd cyffrous hwn.”