English icon English
First Minister receives Covid booster-2

Prif Weinidog Cymru yn cael pigiad atgyfnerthu Covid

First Minister of Wales receives Covid booster jab

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cael ei frechiad atgyfnerthu Covid-19 heddiw yng Nghanolfan Brechu Torfol Bayside ym Mae Caerdydd.

Wrth siarad wedyn, dywedodd y Prif Weinidog:

"Hoffwn i ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y misoedd diwethaf, i sicrhau bod y rhaglen frechu wedi bod yn gymaint o lwyddiant yma yng Nghymru.

 

"Rwy'n annog pawb sy'n cael cynnig brechiad atgyfnerthu i ddod i'w hapwyntiadau.

 

"Mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gadw pawb yn ddiogel gan fod y coronafeirws yn dal gyda ni.”