English icon English
Julie Morgan (1)

Treialu dull gofal newydd ar gyfer plant yng Nghymru

New approach to children’s care piloted in Wales.

Mae cynllun peilot Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol wedi’i lansio yng Nghymru gan gynnig llys teulu gwahanol ar gyfer gofal i blant, a chynnig cymorth i gadw teuluoedd gyda’i gilydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £450,000 i gefnogi’r rhaglen beilot dros gyfnod o ddwy flynedd. Pan fo pryderon am gamddefnyddio sylweddau, bydd y Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn cynnig dull gwahanol i deuluoedd gan sicrhau’r cyfle iddynt gael triniaeth a chefnogaeth ddwys.

Bydd y cynllun ar gael i deuluoedd a fydd wedi’u hatgyfeirio gan awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu o Lys Teuluol Caerdydd. Nod y llys yw torri’r cylch o blant sy’n cael eu rhoi i mewn a’u tynnu allan o’r system ofal. Nod arall y llys yw cefnogi rhieni i roi’r gorau i gamddefnyddio sylweddau fel eu bod yn gallu cael eu hailuno’n ddiogel gyda’u plant, ac osgoi bod plant yn cael eu rhoi mewn gofal.

Mae’r llys yn cael ei oruchwylio gan farnwyr sydd wedi eu hyfforddi yn arbennig, ac yn cael ei gefnogi gan dimoedd asesu ac ymyrraeth amlddisgyblaethol ac annibynnol. Yn ogystal, mae cefnogaeth weithredol yn cael ei darparu gan y Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder sydd â phrofiad o ddarparu cynlluniau peilot tebyg yn Lloegr.

Yn aml, mae camddefnydd o gyffuriau ac alcohol yn cyfrannu’n fawr mewn achosion o amheuaeth o gam-drin plant neu esgeulustod. Mae dros draean o blant sydd mewn gofal yng Nghymru wedi’u hadnabod yn blant sydd ag un rhiant neu fwy sydd â phroblem camddefnyddio sylweddau neu alcohol.

Tra’n bresennol yn y lansiad, dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae cefnogi teuluoedd ag anawsterau camddefnyddio sylweddau a chynorthwyo teuluoedd i barhau i ofalu am eu plant yn flaenoriaeth allweddol. Mae dull y Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn ganolog i’r ymrwymiad hwn.

Rydym yn gwybod bod camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn ffactor amlwg pan fo awdurdodau lleol yn mynd â rhieni i’r llys mewn achosion o amheuaeth o gam-drin plant neu esgeulustod. Bydd y dull newydd hwn yn gweithio gyda rhieni er mwyn eu cefnogi i roi’r gorau i gamddefnyddio sylweddau a chynorthwyo teuluoedd i aros gyda’i gilydd. Rydym wedi gweld tystiolaeth addawol o fodelau Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol tebyg, ac rwy’n gobeithio y bydd y llys newydd hwn yn cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd yng Nghymru. Rwy’n awyddus iawn i weld sut y bydd y cynllun peilot hwn yn datblygu dros y ddwy flynedd nesaf.”

Dywedodd Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol:

“Mae gwasanaethau cymdeithasol wedi wynebu pwysau a heriau cynyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y dull newydd hwn o lysoedd teulu yn fodd o liniaru’r pwysau ar y system, a hefyd yn fodd o drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru. Byddwn yn edrych yn agos ar ganlyniadau’r cynllun peilot er mwyn ystyried y cyfleoedd i ehangu’r model Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol ledled Cymru.

Rhaid i’n ffocws fod ar gadw teuluoedd gyda’i gilydd, drwy roi cefnogaeth gynnar a gwasanaethau ataliol ar yr amser cywir i rieni a phlant.”

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

“Mae cefnogaeth i Blant a Theuluoedd yn flaenoriaeth yn ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn darparu ymyrraeth gynnar, ac ymyrraeth sy’n canolbwyntio ar atal. Mae hyn er mwyn atal niweidiau hirdymor, yn enwedig ar gyfer plant a’u teuluoedd, cyn eu bod yn digwydd.

Rwy’n croesawu’r cyfle i weithio â phartneriaid i ddatblygu’r model Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yma yng Nghymru fel y gallwn gefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd ac ymdrin â phroblemau yn effeithiol.”

 DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

Cardiff and the Vale of Glamorgan have been selected to pilot the FDAC approach in Wales.

The first FDAC pilot was tested in the Inner London Family Proceedings Court between 2008 and 2012. As of September 2021 there were 14 specialist FDAC teams servicing 34 local authorities and 21 family courts in England.