English icon English

Mesurau tai newydd i ddiogelu dofednod ac adar caeth rhag ffliw adar

New housing measures to protect poultry and captive birds against avian flu

Mae Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cytuno i gyflwyno mesurau lletya newydd i ddiogelu dofednod ac adar caeth rhag ffliw adar yn dilyn nifer o achosion a gadarnhawyd ledled Prydain Fawr yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae'r mesurau lletya newydd, a ddaw i rym ddydd Llun 29 Tachwedd, yn golygu y bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad adar ledled y DU gadw eu adar dan do a dilyn mesurau bioddiogelwch llym er mwyn cyfyngu ar ledaeniad a dileu'r clefyd.

Mae mesurau lletya wedi bod ar waith ar gyfer rhannau o Ogledd Swydd Efrog ers 21 Tachwedd yn dilyn nifer o achosion a gadarnhawyd ac achosion tybiedig o ffliw adar H5N1 mewn dofednod yn yr ardal.

Cyngor iechyd y cyhoedd yw bod y risg i iechyd pobl o'r feirws yn isel iawn ac mae cyrff safonau bwyd yn cynghori bod ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr y DU. Peidiwch cyffwrdd na chodi unrhyw adar marw neu wael y byddwch yn dod o hyd iddynt ond yn hytrach hysbysu'r llinell gymorth berthnasol isod. Nid yw'n effeithio ar y defnydd o gynhyrchion dofednod gan gynnwys wyau.

Mae Prif Swyddogion Milfeddygol y Llywodraeth yn annog ceidwaid adar i ddefnyddio'r 5 diwrnod nesaf i baratoi ar gyfer y mesurau lletya newydd, gan gynnwys cymryd camau i ddiogelu lles anifeiliaid, ymgynghori â'u milfeddyg a chodi llety ychwanegol lle bo angen.

Mae'r mesurau lletya ychwanegol yn adeiladu ar y rheoliadau bioddiogelwch cryfach a gyflwynwyd ledled Prydain Fawr fel rhan o'r Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ar 3 Tachwedd 2021 ac yng Ngogledd Iwerddon ar 17 Tachwedd 2021.

Mae cyflwyno mesurau lletya yn golygu, o 29 Tachwedd, yn ogystal â lletya pob dofednod ac adar caeth, fod yn rhaid i geidwaid barhau i gymryd rhagofalon ychwanegol i gadw eu heidiau yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys glanhau a diheintio offer, dillad a cherbydau yn rheolaidd wrth fynd i mewn neu adael safleoedd a chyfyngu ar fynediad i weithwyr neu ymwelwyr nad ydynt yn hanfodol.

Mae’r Prif Swyddogion Milfeddygol ar draws y bedair gwlad wedi cydweithio i gyflwyno'r mesurau lletya newydd ar yr un pryd, sy'n golygu y bydd y cyfyngiadau'n cael eu defnyddio ar draws y DU.

Mewn datganiad ar y cyd gan bedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU: "Rydym wedi cymryd camau cyflym i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd ac rydym nawr yn bwriadu cyflwyno gofyniad cyfreithiol i bob ceidwad dofednod ac adar caeth letya eu hadar neu eu cadw ar wahân i adar gwyllt mewn ffyrdd eraill.

"P'un a ydych chi'n cadw ychydig o adar neu filoedd, o ddydd Llun 29 Tachwedd ymlaen, bydd gofyniad cyfreithiol i chi gadw eich adar dan do, neu gymryd camau priodol i'w cadw ar wahân i adar gwyllt. Nid ydym wedi gwneud y penderfyniad hwn yn ysgafn, cymryd y camau hyn nawr yw'r ffordd orau o amddiffyn eich adar rhag y clefyd heintus iawn hwn."

Cynghorir dofednod a cheidwaid adar caeth i fod yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o glefyd yn eu hadar ac unrhyw adar gwyllt, a gofyn am gyngor prydlon gan eu milfeddyg os oes ganddynt unrhyw bryderon.

Rhaid i geidwaid dofednod wneud y canlynol yn awr:

  • lletya neu roi rhwyd o amgylch yr holl ddofednod ac adar caeth i'w cadw ar wahân i adar gwyllt
  • glanhau a diheintio dillad, esgidiau, offer a cherbydau cyn ac ar ôl cysylltiad â dofednod ac adar caeth – os yw'n ymarferol, defnyddiwch ddillad diogelwch untro
  • lleihau symudiad pobl, cerbydau neu offer i ardaloedd lle cedwir dofednod ac adar caeth, i leihau halogi o dail, slyri a chynhyrchion eraill, a defnyddio rheolaeth fermin effeithiol
  • glanhau a diheintio llety yn drylwyr yn barhaus
  • cadw diheintydd ffres ar y crynodiad cywir ym mhob pwynt mynediad ac ymadael tai fferm a llety dofednod
  • lleihau cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng dofednod ac adar caeth ac adar gwyllt, gan gynnwys sicrhau nad yw bwyd a dŵr ar gael i adar gwyllt

Bydd y mesurau lletya newydd hyn yn cael eu hadolygu'n rheolaidd fel rhan o waith y llywodraeth i amddiffyn heidiau.

Dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth ac aelodau o'r cyhoedd roi gwybod am adar gwyllt marw i linell gymorth genedlaethol Defra ar 03459 33 55 77, a dylai ceidwaid roi gwybod am amheuaeth o glefyd yng Nghymru drwy ffonio 0300 303 8268, Lloegr i Linell Gymorth Gwasanaethau Gwledig Defra ar 03000 200 301. Yn yr Alban, cysylltwch â'ch Swyddfa Gwasanaethau Maes leol. Yng Ngogledd Iwerddon cysylltwch â DAERA ar 0300 200 7840. Dylai ceidwaid ymgyfarwyddo â'n cyngor ar ffliw adar.

Nid yw ffliw adar wedi'i gysylltu o gwbl â phandemig COVID-19, sy'n cael ei achosi gan firws SARS-CoV-2 ac nad yw'n cael ei gario mewn dofednod neu adar caeth.