- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
06 Rhag 2021
Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn lansio ei ap newydd ar gyfer ffonau clyfar ar 7 Rhagfyr, gan ddarparu mwy o nodweddion defnyddiol a gwasanaeth dwyieithog am y tro cyntaf.
Bydd y nodweddion hyn yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf a phrynu tocynnau’n gyflym ac yn rhwydd ar yr ap. Bydd yn galluogi cwsmeriaid i brynu a rheoli tocynnau o’u ffonau clyfar a dilyn eu taith mewn amser real.
Bydd yr ap hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am deithiau, fel y gall cwsmeriaid gael gwybod pryd y byddant yn cyrraedd pen eu taith, yn ogystal â pha gyfleusterau sydd ar gael ar hyd y daith.
Ar ôl cyflwyno’r ap newydd bydd yr hen ap TfW Rail yn dod i ben, er y bydd tocynnau sy’n cael eu storio ar yr hen ap ar gael i’w defnyddio tan ddydd Sul, 6 Mawrth 2022. Bydd angen i bob cwsmer sydd â chyfrif personol ar y wefan ar hyn o bryd agor cyfrif newydd.
Dywedodd Dave Williams, Cyfarwyddwr TG a Gwasanaethau Digidol TrC:
“Mae’r ap newydd ar gyfer ffonau clyfar yn gam mawr ymlaen yn y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu i gwsmeriaid. Mae mwy o bobl nag erioed yn defnyddio ein ap i brynu tocynnau a chael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am deithiau. Mae’r datblygiad hwn hefyd yn cynnwys gwasanaeth dwyieithog am y tro cyntaf ac mae’n llawer haws defnyddio’r nodweddion allweddol.
“Dim ond un cam yw hwn ar y llwybr i gyflwyno ap trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn y pen draw a fydd yn darparu gwybodaeth am deithiau a thocynnau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau ledled Cymru.”