English icon English
WG positive 40mm-3

Yr achos cyntaf o Omicron wedi’i gadarnhau yng Nghymru

First Omicron case confirmed in Wales

Mae achos o Omicron, yr amrywiolyn sy'n peri pryder, wedi'i gadarnhau yng Nghymru. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y mae’r achos ac mae'n gysylltiedig â theithio rhyngwladol.

Rydym yn barod i ymateb yn gyflym i amrywiolion sy'n peri pryder ac mae ymchwiliadau dwys a chamau cadarn o ran iechyd y cyhoedd ar waith i arafu unrhyw ledaeniad.

Mae effaith yr amrywiolyn Omicron ar iechyd yn dal i gael ei asesu. Ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth sylweddol i awgrymu y bydd yr amrywiolyn Omicron yn arwain at fath mwy difrifol o salwch, ond mae sylw manwl a chyson yn cael ei roi i’r data.     

Wrth inni ddod i ddeall yr amrywiolyn hwn yn well, byddwn yn gallu pennu'r camau nesaf. Yn y cyfamser, cadw at y rheolau, dilyn y camau sy'n ein cadw'n ddiogel a manteisio ar y cynnig o frechlyn yw’r ffordd orau o hyd o’n diogelu ni’n hunain a'r GIG.