- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
12 Tach 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi dechrau ar waith yn gosod system teledu cylch cyfyng newydd sbon a Sgriniau Gwybodaeth Cwsmer newydd sbon yng ngorsaf y Fenni sy’n adeilad rhestredig Gradd II. Bydd y gwaith yn parhau tan fis Chwefror 2022.
Mae'r buddsoddiad hwn yng ngorsaf y Fenni yn rhan o Weledigaeth Gwella Gorsaf gwerth miliynau o bunnoedd TrC, i sicrhau bod pob gorsaf ar draws ei rhwydwaith yn lleoedd diogel.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan y contractwr Gee Communications Ltd. Am y tro cyntaf, bydd teledu cylch cyfyng yn cael ei osod ar gyfer yr orsaf gyfan gan gynnwys y meysydd parcio a bydd Sgriniau Gwybodaeth Cwsmer newydd yn cael eu gosod ar y ddau blatfform, yr ystafelloedd aros a'r swyddfa archebu. Unwaith bydd y system newydd yn weithredol byddant yn darparu gwybodaeth cyrraedd ac ymadael gyfredol mewn amser real i gwsmeriaid. Mae'r Sgriniau Gwybodaeth Cwsmer yn cael eu hariannu gan Network Rail.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gorsafoedd TrC, Andrew Moore:
“Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid ac rydyn ni'n gwybod nid yn unig eu bod nhw eisiau gorsafoedd sy'n groesawgar a deniadol, ond maen nhw hefyd eisiau gorsafoedd diogel.
“Bydd teledu cylch cyfyng yn gweithredu fel adnodd ataliol a defnyddiol pan fydd ei angen a bydd y Sgriniau Gwybodaeth Cwsmer newydd ar gael 24/7 gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am deithio i gwsmeriaid. Bydd y ddau ychwanegiad o fudd gwirioneddol i'r orsaf a'i chwsmeriaid.
“Mae'r buddsoddiad hwn yng ngorsaf y Fenni yn un pwysig a fydd yn helpu i gyflawni'r nod hwn fel rhan o'n Gweledigaeth Gwella Gorsaf gwerth miliynau o bunnoedd. Byddwn, dros y blynyddoedd nesaf, yn buddsoddi er mwyn gwella gorsafoedd ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau.”
Hoffai TrC ddiolch i'r gymuned leol ac i gwsmeriaid am eu dealltwriaeth wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo ac ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gall ei achosi.