English icon English

Buddsoddi dros £51m mewn offer diagnostig newydd i sicrhau bod cyfleusterau GIG Cymru “yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif”

More than £51m investment to replace ageing diagnostic equipment will ensure NHS Wales has facilities ‘fit for the 21st century’

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd mwy na £51m yn cael ei fuddsoddi i ddarparu offer newydd yn lle hen offer delweddu diagnostig ar draws GIG Cymru, ac i wella amseroedd aros.

Bydd uwchraddio technoleg ac offer hanfodol, gan gynnwys offer sganio MRI a CT, yn sicrhau bod pobl sy’n aros am sganiau yn cael eu gweld yn gynt, gan helpu i leihau eu pryderon. 

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu’n gynt yn wyneb prinder byd-eang o offer diagnostig, oherwydd galw cynyddol.

Bydd yn helpu i sicrhau bod gan GIG Cymru y cyfleusterau diagnostig mwyaf modern sy’n defnyddio’r dulliau delweddu diweddaraf. Bydd ansawdd y delweddau’n gwella, a fydd yn helpu i roi diagnosis cynharach a chywirach o lawer o glefydau cyffredin, gan gynnwys canser.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan GIG Cymru yr offer a'r cyfarpar diagnostig cywir sydd eu hangen i ofalu am bobl ledled Cymru.

"Drwy sicrhau bod gennym gyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, gallwn wella gofal pobl yn sylweddol drwy roi diagnosis cynharach a chywirach a helpu i leihau'r straen a'r pryder i bobl wrth iddynt aros am y profion hyn.

"Mae gennym lawer o waith i'w wneud i leihau amseroedd aros, ond bydd buddsoddi yn y dechnoleg ddiagnostig ddiweddaraf yn helpu i gefnogi’r ymdrechion i adfer o’r pandemig."

Ers i’r rhaglen genedlaethol i ddarparu offer delweddu diagnostig newydd yng Nghymru gael ei sefydlu yn 2018, mae dros £63m wedi’i fuddsoddi.

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd y byddai £25m yn cael ei fuddsoddi i ddarparu offer newydd yn y meysydd lle mae’r flaenoriaeth uchaf, a chafwyd ymrwymiad pellach o £25m i ddatblygu gwasanaethau delweddu PET-CT ledled Cymru.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cael £7.7m i brynu offer newydd yn lle’r offer sganio MRI a CT, yn ogystal â chyfleusterau fflworosgopeg, yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Dywedodd Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Diagnosteg Glinigol: “Yn ogystal ag uwchraddio ein hoffer delweddu digidol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod gennym offer diagnostig o ansawdd uchel er mwyn inni allu darparu’r gwasanaethau mwyaf effeithlon posibl i bobl. Bydd hyn hefyd yn bwysig o ran mynd i’r afael ag amseroedd aros sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig COVID-19.”

Nodiadau i olygyddion

A breakdown of the £51m diagnostic funding available is below.

Health Board

Priority

Site

System

Equipment Cost

 £m

Associated Works Cost £m

Total

£m

Aneurin Bevan University Health Board

1

Various

Ultrasounds

£1.440

£0.000

£1.440

2

NHH

CT

£1.320

£0.800

£2.120

3

Various

4 DR rooms

£1.200

£0.700

£1.900

4

R.Gwent

CT

£1.320

£0.800

£2.120

     

Subtotal

 £5.280

 £2.300

 £7.580

Betsi Cadwaladr University Health Board

1

YMH

MRI Upgrade

£0.780

£0.260

£1.040

2

YMH

CT

£1.320

£1.600

£2.920

3

Various

6 DR rooms

£1.500

£0.845

£2.345

4

YGC

Fluoroscopy

£0.660

£0.660

£1.320

     

Subtotal

 £4.260

 £3.365

 £7.625

Cardiff and Vale University Health Board

1

UHL

MRI

£1.440

£0.700

£2.140

2

UHW

4 DR rooms

£1.200

£0.700

£1.900

3

UHL

Fluoroscopy

£0.630

£0.800

£1.430

4

UHL

CT

£1.440

£0.800

£2.240

     

Subtotal

 £4.710

 £3.000

 £7.710

Cwm Taf Morgannwg University Health Board

1

PCH

Ultrasound and CT Injector

£0.160

£0.000

£0.160

2

POW

C Arm

£0.120

£0.000

£0.120

3

POW

Gamma

£0.780

£0.400

£1.180

4

Various

5 DR rooms

£1.500

£1.750

£3.250

5

R.Glam

MRI Upgrade

£0.720

£0.250

£0.970

     

Subtotal

 £3.280

 £2.400

 £5.680

Hywel Dda University Health Board

1

PPH

CT

£1.320

£1.080

£2.400

2

BGH

CT

£1.320

£1.080

£2.400

3

Various

Ultrasound/Image Intensifiers

£2.292

£0.000

£2.292

4

Various

3 DR rooms

£1.200

£1.000

£2.200

5

Various

2 Fluoroscopy Rooms

£1.020

£1.800

£2.820

     

Subtotal

 £7.152

 £4.960

 £12.112

Swansea Bay University Health Board

1

MOH

MRI

£1.440

£1.350

£2.790

2

Sing

CT

£1.320

£1.080

£2.400

3

NPT

CT

£1.320

£1.400

£2.720

4

NPTH

Gamma

£0.780

£1.400

£2.180

5

NPT

DR Room

£0.270

£0.350

£0.620

     

Subtotal

 £5.130

 £5.580

 £10.710

     

Total

 £29.812

 £21.605

 £51.417