English icon English
Merched o Clwb Rhwyfo Merched Wiseman's Bridge yn hapus i ddal eu gwobr, gyda Stephen Thornton.

Enwebiadau yn agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2023

Nominations open for the Sport Pembrokeshire Awards 2023

Bydd dathliad blynyddol Sir Benfro o chwaraeon yn cael ei gynnal unwaith eto yr hydref hwn yng Ngwobrau mawreddog Chwaraeon Sir Benfro 2023.

Mae enwebiadau ar gyfer yr 13 categori o wobrau yn agor heddiw (dydd Mercher, 13 Medi) ac yn cau ddydd Sul, 15 Hydref.

Mae'r categorïau'n cydnabod cyflawniadau chwaraeon unigolion a thimau ac ymroddiad gwirfoddolwyr a hyfforddwyr mewn chwaraeon cymunedol.

Ac am y tro cyntaf, bydd enwebiadau hefyd yn cael eu gwahodd ar gyfer gwobr arbennig Cyflawniad Oes.

"Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod, am y tro cyntaf, yn gofyn i aelodau'r cyhoedd gyflwyno enwebiad ar gyfer y wobr bwysig hon," meddai'r Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr.

Ymhlith yr enillwyr blaenorol mae Roland Phillips (rygbi), Alice Watts (pêl-rwyd), Jacob Thomas (boccia) a Paula Craig (athletau).

Ychwanegodd y Cynghorydd Sinnett fod panel beirniadu Chwaraeon Sir Benfro yn edrych ymlaen at dderbyn llawer o enwebiadau ar draws yr 13 o gategorïau.

"Mae'r gwobrau’n gyfle gwych i ddathlu llwyddiant chwaraeon, a dangos eich gwerthfawrogiad o'r holl bobl weithgar mewn chwaraeon ar lawr gwlad," meddai. "Cyflwynwch eich enwebiadau cyn gynted â phosibl."

"Hoffwn ddiolch hefyd i'n noddwyr unwaith eto eleni - Valero, Pure West Radio, Folly Farm a'r Western Telegraph. Heb eu cefnogaeth, ni fyddai modd cynnal y digwyddiad hwn."

Cynhelir y seremoni wobrwyo gala yn Folly Farm ddydd Gwener, 24 Tachwedd 2023.

Dyma gategorïau’r gwobrau:

  • Hyfforddwr y Flwyddyn
  • Cyflawniad Chwaraeon gan Fenyw
  • Cyflawniad Chwaraeon gan Ddyn
  • Cyflawniad Chwaraeon gan Fachgen (o dan 16 oed)
  • Cyflawniad Chwaraeon gan Ferch (o dan 16 oed)
  • Gwobr Chwaraeon Anabledd
  • Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau (o dan 16 oed)
  • Arwr Anenwog
  • Trefnydd Clwb y Flwyddyn
  • Cyflawniad Tîm y Flwyddyn
  • Cyflawniad Tîm Iau (o dan 16 oed) y Flwyddyn
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
  • Clwb y Flwyddyn
  • Cyflawniad Oes

Gwobr ychwanegol a gyhoeddwyd ar y noson yw'r Wobr Ysgolion, sy'n cydnabod ysgol leol sy'n gweithio'n galed iawn i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hwyl, yn gynhwysol, ac yn arloesol – ac yn meithrin cysylltiadau cryf â'r gymuned leol.

Pennawd

Yn y llun mae enillwyr categori Cyflawniad Tîm Chwaraeon Sir Benfro y llynedd - Cwad â Llywiwr Merched Pont yr ŵr – gyda Stephen Thornton o Valero.