English icon English
LLUN CYWIR EFA 2022-2

Cyhoeddi Comisiynydd newydd y Gymraeg

New Welsh Language Commissioner announced

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi bod Efa Gruffudd Jones wedi’i phenodi’n Gomisiynydd y Gymraeg.

Bydd yn dechrau ar ei swydd ym mis Ionawr 2023, gan gymryd rôl y diweddar Aled Roberts.

Mae gan y Comisiynydd rol bwysig mewn cynyddu’r gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg, cynyddu’r defnydd o’r iaith, a gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg.

Efa Gruffudd Jones yw Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r ganolfan yn gyfrifol am bob agwedd ar ddysgu Cymraeg, o’r cwricwlwm a datblygu cyrsiau i adnoddau i diwtoriaid, gwaith ymchwil, marchnata a dysgu digidol.

Argymhellodd panel dewis annibynnol fod gan Efa y sgiliau, y profiad a’r hygrededd i gael ei phenodi’n Gomisiynydd y Gymraeg. Ategwyd y farn hon gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Dw i’n llongyfarch Efa ar ei phenodi’n Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’r iaith wedi bod yn ganolog i yrfa Efa - fel prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac fel prif weithredwr yr Urdd. Fe fydd hi, felly, yn dod i’r swydd â blynyddoedd o brofiad o weithio dros y Gymraeg ac o weithio gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ledled Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Mae’n bleser imi gael croesawu Efa i’w rôl newydd fel Comisiynydd y Gymraeg.  Mae gyda ni amcanion uchelgeisiol i gynyddu nid dim ond nifer siaradwyr Cymraeg, ond hefyd y defnydd sy’n cael ei wneud o’r Gymraeg bob dydd. Mae rôl y Comisiynydd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a gwasanaethau Cymraeg yn rhan bwysig o gyrraedd y targed hwn, a dw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag Efa ar hyn.”

Dywedodd Efa Gruffudd Jones:

“Fe fydd hi’n fraint cael bod yn Gomisiynydd y Gymraeg ac yn anrhydedd dilyn ôl traed Aled Roberts. Dw i am weld Cymru lle mae pobl yn gallu mwynhau defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Dw i’n edrych ymlaen at wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod y Gymraeg, ein trysor cenedlaethol, yn perthyn i bob un ohonon ni.