- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
06 Hyd 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn parhau i symud ymlaen gyda’r gwaith o adeiladu Metro De Cymru gyda gwaith mawr yn cael ei wneud ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL).
Rhwng dydd Mawrth 11 Hydref a dydd Iau 3 Tachwedd 2022, bydd y llinell rhwng Abercynon a Merthyr Tudful ar gau fel y gall gwaith peirianyddol trwm gael ei wneud, fel rhan o'r paratoadau ar gyfer cyflwyno tram-drenau trydan newydd sbon. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaeth bws yn lle trên fydd yn galw ym mhob gorsaf ar hyd y llinell hon.
Bydd y cau am 25 diwrnod yn caniatáu i beirianwyr wneud gwaith cymhleth gan gynnwys cwblhau’r sylfeini sy’n weddill a gosod pyst dur ar gyfer yr Offer Llinell Uwchben, gwneud gwaith newydd ar y trac ar gyfer switshis a chroesfannau ym Mhentrebach a Mynwent y Crynwyr, gwneud gwaith pellach i adeiladu’r platfform newydd ym Mynwent y Crynwyr, gwaith gwella mewn gorsafoedd eraill, gwelliannau i gyflymder y llinell ac ymdrin â llystyfiant ar draws y llinell.
Mae mynd ati i gau am gyfnod yn helpu i leihau’r angen am weithio gyda’r nos gymaint â phosibl, gan leihau’r angen i darfu ar gymdogion ochr y llinell dros nos hefyd.
Bydd y buddsoddiad yn y Metro yn gwella cysylltedd yn sylweddol gan ddarparu mynediad i swyddi, hamddena a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau rheilffordd, bysiau a theithio llesol.
Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y Metro ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys blog yn ateb rhai cwestiynau cyffredin am y gwaith o drawsnewid y Metro.