Skip to main content

"Honestly, I'm loving every second!" - Hear from Trainee Driver Laura Thomas as she begins her journey

11 Hyd 2022

Treuliodd y Rheolwr Hyfforddiant Gweithrediadau Adam Bagwell amser yn siarad â rhai o'n criw presennol o yrwyr trenau dan hyfforddiant i gael eu hanes a beth maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd.

Yn y blog hwn, rydyn ni'n clywed gan Laura Thomas o gwrs 43 am ei phrofiadau hyd yma yma yn TrC, a’i gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Laura Thomas 1

Enw/Lleoliad

Laura Thomas, Caerdydd

Swydd

Gyrrwr dan Hyfforddiant - Cwrs 43

Cefndir

Cyn dechrau gyda TrC roeddwn i'n gweithio mewn casino.  Dechreuais fel crwpier yn 2004, ond gwnes i swyddi amrywiol, fel derbynnydd ac ariannwr. Tra'n dal i weithio, dychwelais i fyd addysg yn 2016 a mynd i'r brifysgol i astudio'r Gyfraith gyda Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol.  Chwaraeodd hyn ran allweddol wrth i mi gael fy nyrchafu i rôl Swyddog Cydymffurfiaeth yn 2019.  Oherwydd cyfyngiadau Covid, caewyd y casino am sawl mis a roddodd amser i mi fyfyrio ar yr hyn yr oeddwn yn ei wneud a'r hyn yr oeddwn ei eisiau o ran gyrfa.  Ystyriais yr ymdrechion a’r aberth a wnaed gan weithwyr allweddol, a sylweddolais fy mod eisiau swydd a oedd yn werth chweil ac a oedd yn darparu gwasanaeth.

Beth ydych chi'n ei ddysgu ar hyn o bryd?

Ar y cwrs Gyrwyr rydym ar hyn o bryd yn astudio 'Gweithrediadau Diraddedig'.  Yn amlwg, nid oes neb eisiau i bethau fynd o chwith, ond yn gweithio mewn diwydiant gyda chymaint o rannau symudol, mae’n anochel y gall hyn ddigwydd.  Er bod astudio theori digwyddiadau o'r fath yn wahanol iawn i brofiadau bywyd go iawn, mae'r hyfforddiant a'r trafodaethau a gawsom ar y pwnc hwn wedi rhoi'r hyder i ni wybod y gallwn ymdrin â hwy.

Sut hwyl ydych chi'n ei chael ar y cwrs?

Yn onest, dwi'n caru pob eiliad.  Mae rhai modiwlau yn fwy heriol nag eraill, ond mae'r cwrs wedi'i drefnu'n dda ac wedi'i rannu'n rannau synhwyrol.  Doeddwn i ddim yn gwybod dim byd am drenau pan ddechreuais ond dydw i erioed wedi teimlo fy mod i dros fy mhen.  Mae'r hyfforddwyr i gyd yn wybodus, yn galonogol ac yn hawdd sgwrio â hwy.  Gan ddefnyddio 'mewnwelediad personoliaeth' o'r dechrau, maent wedi cyflwyno dysgu di-straen sydd wedi gweithio gyda gwahanol ffyrdd o ddysgu a deall ein grŵp.

Laura Thomas 3

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am y cwrs?

Dysgu rhywbeth newydd a gweithio gyda fy ngharfan.  Rwy'n teimlo'n ffodus iawn bod gan ein grŵp berthynas mor dda.  Rydyn ni wedi gweithio'n dda gyda'n gilydd o'r cychwyn cyntaf ac wedi cefnogi ein gilydd y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth.  Rydym yn gwerthfawrogi bod hon yn rôl hollbwysig o ran diogelwch ac mae llawer o wybodaeth i'w dysgu, ond yn sicr nid yw’n teimlo’n llafurus.  Nid ydych chi bob amser yn cysylltu gwaith â hwyl, ond dwi yn bendant wedi chwerthin llawer ers ymuno â'r cwrs.

Beth fu'r her fwyaf hyd yn hyn?

I mi, yr her fwyaf oedd cymryd y cam cychwynnol hwnnw; rhoi cynnig ar rywbeth hollol newydd a throi fy nghefn ar swydd roeddwn i'n hen gyfarwydd â hi.  Byddai wedi bod mor hawdd aros lle’r oeddwn i, ond penderfynais fod bywyd yn rhy fyr i “beth os...”.

Beth yw barn eich teulu a'ch ffrindiau am yr hyn rydych chi’n ei wneud?

Pan ddywedais wrth fy nheulu a'm ffrindiau fy mod wedi ymgeisio am y swydd, rhai o'r ymatebion oedd dryswch -  'Beth?!?' ‘Go iawn?’, ‘Pam?’ a  ‘Waw, mae hynny'n wahanol!'  Er ei bod hi'n 2022, dwi'n meddwl bod rhai (ac yn sicr cenedlaethau hŷn) yn cael eu synnu bod 'merch' eisiau bod neu, yn gallu bod, yn yrrwr trên.  Ar y cyfan, serch hynny, maent wedi bod yn gefnogol ac yn galonogol iawn.  Mae fy Nain, sydd ddim yn fy adnabod y rhan fwyaf o'r amser, wedi dweud wrth bawb yn ei chartref gofal bod ei hwyres yn mynd i fod yn yrrwr trên.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy'n ystyried gyrfa fel un chi?

Ewch amdani!  Bydd yr adran hyfforddi yn eich helpu a'ch cefnogi bob cam o'r ffordd.  Mae manteision amlwg i’r rôl ond yn y pen draw, mae’n swydd am oes y gallwch fod yn falch ohoni.  Nid wyf eto wedi cyfarfod ag unrhyw un sydd wedi siarad yn negyddol am y rôl; mae pawb rydw i wedi cael sgyrsiau â hwy wedi dweud, “gyrru yw'r swydd orau, fyddwch chi ddim yn edifar”.