English icon English

Comisiynwyd y Deifio Dwfn Bioamrywiaeth - Llinell Dros Nos

Biodiversity Deep Dive - overnight line

Heddiw bydd canlyniadau adolygiad byr, dwys o fioamrywiaeth yn cael eu cyhoeddi a’u cyflwyno yng Nghynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2022.

Comisiynwyd y Deifio Dwfn Bioamrywiaeth gan Lywodraeth Cymru ac fe’i lluniwyd gan arbenigwyr ac ymarferwyr byd natur gorau Cymru.

Bydd yn gwneud argymhellion ar sut gall Cymru helpu byd natur i adfer ac mae wedi'i gynnal cyn Cynhadledd nodedig y Partïon (COP15)  y Cenhedloedd Unedig yng Nghanada ym mis Rhagfyr, lle bydd arweinwyr byd-eang yn cyfarfod i gytuno ar dargedau i frwydro yn erbyn yr argyfwng natur.

Mae disgwyl i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wneud cyhoeddiad am 9am.

Nodiadau i olygyddion

DIGWYDDIAD: Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2022: https://www.biodiversitywales.org.uk/Conference

AELODAU'R PANEL DEIFIO DWFN BIOAMRYWIAETH

Ms Ceri Davies - Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.

Dr Sharon Thompson - Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth RSPB Cymru

Dr Richard Unsworth - Athro Cyswllt, Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe

Dr Paul Sinnadurai FCIEEM - Uwch Ecolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dr Tim Pagella - Uwch Ddarlithydd mewn Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Dr Philippa Pearson - Pennaeth Gwyddor Gwasanaethau Dŵr, Dŵr Cymru Welsh Water.

Yr Athro Steve Ormerod - Athro Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dr Katie Medcalf - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yn Environment Systems.

Hilary Kehoe - Cadeirydd Cymru y Rhwydwaith Ffermio sy'n Gyfeillgar i Natur.

Mike Elliott - Yr Athro Mike Elliott | Prifysgol Hull