English icon English

Amser gwneud cais am y rownd diweddaraf o arian i drawsnewid trefi ledled Cymru

Time to apply for latest round of funding to transform towns across Wales

Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i wneud cais am ei rownd diweddaraf o gyllid benthyciadau Trawsnewid Trefi.

Mae modd defnyddio'r cyllid, sydd werth £5m, i adfywio canol trefi drwy ddod ag adeiladau gwag yn ôl yn fyw.

Mae'r cynllun, sydd eisoes wedi dyrannu mwy na £67m ers 2014, yn caniatáu i gynghorau gefnogi prosiectau sy'n helpu cynhyrchu nifer yr ymwelwyr i ganol trefi a helpu i gefnogi busnesau lleol.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Mae ein rhaglen trawsnewid trefi yn parhau i sicrhau canlyniadau gwych yn ein hymrwymiad a'n huchelgais i adfywio canol trefi ledled Cymru, gan eu rhoi wrth galon popeth a wnawn.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r arian hwn yn cael ei  ddefnyddio yng nghanol trefi ar hyd a lled y wlad maes o law."

Mae dau gynllun ym Mlaenau Gwent wedi elwa yn sgil rownd flaenorol o gyllid Benthyciadau Trawsnewid Trefi gan gynnwys gwesty'r Railway yn Abertyleri a Gwesty a Bwyty Tredegar Arms yn Nhredegar.

Mae'r Railway Hotel yn adeilad amlwg wedi'i leoli wrth borth y gogledd i ganol y dref. Cafodd yr adeilad ei ddifrodi'n helaeth gan dân ym mis Mawrth 2017 ac fe'i gwerthwyd wedyn mewn ocsiwn ym mis Gorffennaf 2017. 

Roedd benthyciad Trawsnewid Trefi gwerth £200,000 ynghyd ag arian grant yn galluogi'r perchennog i wneud gwaith adnewyddu helaeth yn cynnwys to newydd, a gwaith mewnol i greu bar a bwyty modern ynghyd ag ystafell ddigwyddiadau fawr sy'n gallu dal hyd at 200 o bobl.

Mae'r eiddo bellach yn gweithredu o dan yr enw Vamos by the River  ac mae'n ddewis poblogaidd gyda thrigolion lleol.

Mae Gwesty a Thŷ bwyta'r Tredegar Arms yng nghanol tref Tredegar o fewn ardal gadwraeth.

Cyn hynny bu'r eiddo'n ddiffaith am flynyddoedd lawer. Nawr, diolch i fenthyciad Trawsnewid Trefi o £284,000, mae'r eiddo wedi ei adnewyddu i safon uchel yn 2019 ac mae'n ganolbwynt i ganol y dref. 

Mae'r gwaith adnewyddu wedi creu naw ystafell wely ensuite moethus ac un swit o ystafelloedd, ynghyd ag ystafell i gynnal digwyddiadau, cyfleusterau cynadledda a phriodasau. 

Mae'r busnes wedi mynd o nerth i nerth ac yn cyflogi 10 aelod o staff llawn amser a chadw tŷ.   

Mae'n darparu llety sy'n denu twristiaeth lleol i'r ardal ac sy'n cefnogi busnesau eraill canol trefi.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Gweithredol Cyngor Cyllido Lleoedd Ac Adfywio Cyngor Blaenau Gwent:

"Rydym wedi ymrwymo i weithio i fynd i'r afael â'r heriau economaidd sy'n wynebu ein cymunedau a'n busnesau ar hyn o bryd ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiannau diweddar rydym wedi'u cael wrth gefnogi canol ein trefi i adfywio.

"Mae wedi bod yn wych gweithio mewn partneriaeth gyda rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac yn enwedig y cynllun Benthyciadau Canol Trefi, sydd wedi golygu ein bod yn gweithio gyda sawl perchennog busnes lleol i ddefnyddio nifer sylweddol o eiddo unwaith eto a'u hadfywio er budd economaidd yr ardal leol; y bobl sy'n byw yn ein cymunedau ac i greu cyfleoedd gwaith.

"Mae gennym gynlluniau cyffrous o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi i sicrhau bod canol ein trefi yn addas i'r diben ac yn apelio at ddefnyddwyr, wrth i ni weithio i daclo amddifadedd economaidd a chreu cyfleoedd economaidd pellach i'n cymunedau."

Mae'r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau ac yn dod i ben ar 02 Tachwedd.