English icon English
WG positive 40mm-3

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i leihau’r amseroedd aros hiraf gyda nifer y llwybrau cleifion* sy’n aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth wedi lleihau am y pumed mis yn olynol. Mae hyn yn ostyngiad o 16 y cant ers y brig ym mis Mawrth.

“Mae miloedd o bobl yn dal i gael eu gweld a’u trin gan GIG Cymru a chynhaliwyd mwy na 338,000 o ymgynghoriadau ym mis Awst. Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i weld sut gallwn eu cefnogi orau i gwrdd â’n targedau gofal a gynlluniwyd. 

 

“Gwelwyd ychydig yn fwy o bobl yn dechrau eu triniaeth canser ym mis Awst (1,691) nag yn y mis blaenorol. Caewyd cyfanswm o 13,534 o lwybrau ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd ganddo ganser, sy’n gynnydd o fwy na 12% o’i gymharu â’r mis blaenorol a’r lefel uchaf a gofnodwyd. Mae llawer iawn o waith, ffocws, buddsoddiad a newidiadau i wasanaethau ar y gweill i leihau nifer y bobl sy’n aros am driniaeth canser. Yn ddiweddar, cynhaliodd y Gweinidog Iechyd gyfarfod gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i glywed eu cynlluniau ynglŷn â sut y maent yn gweithio i leihau’r rhestrau aros.

“Yn ystod mis Awst caewyd ychydig dros 93,000 o lwybrau cleifion, sy’n gynnydd sylweddol ers cyfnod cynnar y pandemig a 27 y cant yn uwch nag ar gyfer yr un mis yn 2021.

“Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, gwelwyd lleihad yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros, i ychydig dros 107,000 ym mis Awst o 110,000 ym mis Gorffennaf. Ar gyfer therapïau, gwelwyd lleihad yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ychydig dros 67,500 ym mis Awst.

“Mae staff gofal brys a gofal mewn argyfwng yn parhau i fod dan bwysau mawr, ac rydym yn gweithio gydag arweinwyr yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi gwelliannau. Rydym yn cydnabod nad yw perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd ein disgwyliadau ni yn GIG Cymru, na disgwyliadau’r cyhoedd, ac rydym yn arwain ymateb system gyfan i gefnogi gwelliant. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd gymryd perchnogaeth a lleihau’r oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansiau, yn ogystal â gweithio gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol i wella prydlondeb o ran anfon cleifion adref o’r ysbyty.

“Mae perfformiad wedi gwella yn erbyn y safonau pedair awr a deuddeg awr a bu lleihad bychan yn yr amser cyfartalog (canolrifol) a dreuliwyd mewn adrannau argyfwng. Ym mis Medi gwelwyd y perfformiad gorau yn erbyn y safon pedair awr ers mis Ionawr 2022 ac mae hyn yn tystio i waith caled staff yr adrannau argyfwng yn wyneb y pwysau parhaus ar y system.”

Nodiadau i olygyddion

* The number of patient pathways is not the same as the number of individual patients, because some people have multiple open pathways. More information is available in the Welsh Government’s chief statistician’s blog.

New management information suggests that in August 2022, when there were more than 750,000 open patient pathways, there were around 589,000 individual patients on treatment waiting lists in Wales. This was an increase of almost 3,500 patients from the previous month.

September saw the second highest proportion of ‘red’/ immediately life threatened calls on record.