- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
24 Meh 2021
Mae gan gerbydau trydan rôl allweddol o ran datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth yng Nghymru ac mae angen cefnogi’r defnydd ohonynt drwy ddarparu seilwaith gwefru digonol.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru i sefydlu seilwaith gwefru cyflym i gerbydau trydan ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol, i hwyluso teithiau pellter hir ledled Cymru.
Yn dilyn proses dendro ddiweddar, mae TrC wedi penodi SWARCO UK Ltd i ddechrau darparu rhwydwaith gwefru cyflym, a fydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Steve Ward, Rheolwr Rhaglen Datgarboneiddio yn TrC: “Rydym yn falch iawn o benodi SWARCO i ddatblygu pwyntiau gwefru cyflym i gerbydau trydan mewn 12 lleoliad gwledig.
“Rydyn ni’n gwybod bod diffyg cyfleusterau yn rhwystr gwirioneddol i bobl gael yr hyder i newid i gar trydan, ac mae hyd yn oed yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau am gyrchfannau gwyliau.
“Gyda phwyntiau gwefru bob 25 milltir a chyfleusterau talu digyswllt syml, mae’r problemau hyn nawr yn cael eu datrys, ar ddechrau uchelgais tymor hwy i weld miloedd o bwyntiau gwefru ychwanegol yn cael eu darparu ledled y wlad yn y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Justin Meyer, Rheolwr Gyfarwyddwr SWARCO UK: “Rydyn ni’n hynod falch o fod wedi cael ein dewis fel y cyflenwr sy’n cael ei ffafrio ar gyfer darparu a gosod rhwydwaith gwefru cyflym i Gymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld gyrwyr yn cael yr hyder i archwilio’r wlad brydferth hon mewn cerbydau trydan, gan wybod y gallan nhw wefru’n gyflym a bod ar eu ffordd.”
Bydd gosod y safleoedd a ddewiswyd yn arwain at bwynt gwefru cyflym bob tua 25 milltir ar Rwydwaith Ffyrdd Strategol Cymru. Bydd y gosodiadau’n cael eu lledaenu ar draws pedair ardal Awdurdod Lleol: Ceredigion, Powys, Sir Ddinbych a Gwynedd.
Lleolir y safleoedd ym meysydd parcio’r Awdurdod Lleol yn Aberteifi, Y Drenewydd, Y Trallwng, Crucywel, Machynlleth, Talgarth, Corwen, Dolgellau, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog, Y Bala a maes parcio tafarn yn Llangurig.