English icon English

Dyfodol cryfach yn disgwyl economi’r Gogledd – Gweinidog yr Economi

North Wales economy can look ahead to stronger future – Minister for Economy

Mae dyfodol cryfach yn disgwyl economi’r Gogledd, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw yn ystod ei ymweliad â’r rhanbarth

Ymwelodd y Gweinidog ag Airbus ym Mrychdyn ac â Toyota yng Nglannau Dyfrdwy.  Mae’r ddau gwmni’n gyflogwyr pwysig yn y rhanbarth ac yn darparu swyddi crefftus.

Ymwelodd â chyfleuster cynhyrchu A320 Airbus gyda’r Gweinidog Materion Gwledig, y Gogledd a’r Trefnydd Lesley Griffiths, cyn galw yn Toyota sydd newydd gael arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn ffwrneisi toddi alwminiwm sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithiol, yn llai wastraffus ac sy’n helpu i dorri allyriadau carbon.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Roedd yn bleser cael ymweld â dau gwmni allweddol yn y Gogledd-ddwyrain heddiw. Mae heriau’n parhau wrth inni ddelio ag effeithiau’r pandemig ond mae llawer rheswm i fod yn galonogol ynghylch y dyfodol hefyd.

“Rwyf wedi gweld sgiliau, ymroddiad ac arloesedd yn y safleoedd o fri rhyngwladol rwyf wedi ymweld â nhw heddiw. Ar ddechrau’r pandemig, chwaraeodd gweithwyr Airbus ran bwysig wrth gynhyrchu anadlyddion yn yr AMRC gerllaw, ac rwy’n falch bod gennym weithlu mor dalentog yma yn y Gogledd.

“Yn ystod y pandemig, darparodd Toyota offer amddiffyn ar gyfer y gymuned leol a rhoi tir ar gyfer cynnal profion. Roedd yn dda cael gweld arloesedd Toyota yn ystod yr ymweliad a chlywed am eu prosiectau i leihau’u hallyriadau carbon a helpu’r ffatri i ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol wrth iddyn nhw weithio at y nod o fod yn sero net o ran eu hallyriadau carbon erbyn 2050.”

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, y Gogledd a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Mae’r sgiliau a’r dechnoleg ddiweddaraf a welsom yn Airbus yn rhywbeth y gall y Gogledd cyfan ymfalchïo ynddo. Wrth inni ddelio ag effaith y pandemig, rwyf am roi fy sylw i adferiad y Gogledd, a chyda’r sgiliau a’r arloesedd sydd yma, rwy’n gwybod ein bod yn dechrau o fan cychwyn gryf.   Diolch i Fargen Dwf y Gogledd a datblygiadau eraill, mae llawer i fod yn galonogol yn ei gylch wrth inni edrych ar ddyfodol cryfach i’r rhanbarth.”