English icon English
Babi Actif-2

Y Gronfa Iach ac Egnïol wedi'i hymestyn am flwyddyn arall yn sgil y pandemig

Healthy and Active Fund extended by a year following pandemic

Mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, wedi cyhoeddi y bydd y Gronfa Iach ac Egnïol yn cael ei hymestyn.

Gyda gwasanaethau wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol yn 2020 oherwydd y pandemig, mae cyfanswm o £991,200 o gyllid ychwanegol wedi cael ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y gronfa am flwyddyn arall. Sefydlwyd y Gronfa yn 2018 i helpu i wella iechyd meddwl a chorfforol drwy alluogi pobl i fabwysiadu ffyrdd iach ac egnïol o fyw.

Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru wedi dangos bod 60% o oedolion yng Nghymru yn bwriadu gwneud mwy o weithgarwch corfforol ac ymarfer corff wrth inni ddod allan o gyfnod y cyfyngiadau. Annog mwy o bobl i fod yn egnïol yw’r gobaith wrth ymestyn y Gronfa Iach ac Egnïol.

Yn gynharach y mis hwn, mynychodd y Dirprwy Weinidog ddosbarth bygi actif yn Abergele dan arweiniad Babi Actif. Mae'r prosiect, sy'n cael ei ariannu gan y Gronfa Iach ac Egnïol, yn helpu teuluoedd ar draws Conwy, Ynys Môn a Gwynedd drwy helpu rhieni a phlant i fod yn egnïol yn ystod 1000 diwrnod cyntaf y baban.

Unwaith eto, bydd y Gronfa Iach ac Egnïol yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau ledled Cymru gyda phwyslais ar brosiectau sy'n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, pobl ag anabledd neu salwch hirdymor, y rhai sy'n ddi-waith neu sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig neu bobl hŷn a'r rhai sydd ar fin ymddeol o'r gwaith.

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: "Mae pandemig y coronafeirws wedi gwneud i bob un ohonom ganolbwyntio mwy ar ein hiechyd a'n llesiant. Mae bod yn egnïol o fudd mawr i'n llesiant corfforol a meddyliol.  Rydw i wrth fy modd bod gweithgareddau sy’n cael eu hariannu gan y rhaglen bellach wedi ailddechrau a'n bod ni wedi gallu ymestyn y gronfa am flwyddyn arall. Mae hyn yn dod ar ôl cyfnod sydd wedi bod yn anodd inni i gyd. Mae prosiectau sy'n cynnig rhywbeth ar gyfer gwahanol oedrannau a galluoedd yn cael eu cefnogi ar hyd a lled Cymru."

Dywedodd Catherine Williams, Rheolwr Gweithrediadau Eryri-Bywiol, sy'n rhedeg y prosiect Babi Actif: "Gall bod yn rhiant newydd fod yn anodd, ac I sawl un mae'r pandemig yn sicr wedi ychwanegu at yr her. Mae Babi Actif wedi rhoi i rieni yr hyn y mae llawer yn ei ddisgrifio fel "achubiaeth" trwy gyfarfod â rhieni newydd eraill yn ystod y cyfnod hwn a chael y chyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol gyda'u babanod. Mae cyllid drwy'r Gronfa Iach ac Egnïol yn galluogi Babi Actif i gynnig sesiynau awyr agored i gannoedd o rieni newydd a'u babanod ledled y Gogledd, gan feithrin arferion iach i’r baban o’r cychwyn cyntaf a hybu llesiant corfforol a meddyliol y rhieni."

Nodiadau i olygyddion

Sporting Memories Network CIC

Cardiff, Conwy, NPT, Newport, RCT, Swansea & Vale

Keep Wales Tidy

Caerphilly, Monmouthshire, Torfaen, Newport & Cardiff

Action for Elders Trust

Swansea

National Trust

Newport

Bridgend CBC

Bridgend, RCT & Merthyr

Pembrokeshire Coast NPA

Pembrokeshire, Carmarthenshire & Ceredigion

Smallwoods Association

National

Early Years Wales

National

Newport Live

Newport

Play Wales

Cardiff & Vale of Glamorgan

Eryri Bywiol

Gwynedd, Conwy & Ynys Mon

Women Connect First

Cardiff

StreetGames

Blaenau Gwent, Bridgend, Caerphilly, Cardiff, Merthyr Tydfil & Newport

The Outdoor Partnership

Ynys Mon, Gwynedd & Conwy

Living Streets

Cardiff, Caerphilly, Newport, Monmouth, RCT & Torfaen

Interlink RCT

RCT