English icon English

Cyfrif i lawr y dyddiau hyd nes y bydd Cymru’n ganolbwynt i fyd bwyd a diod

Counting down the days until Wales becomes the focal point for the world of food and drink

Ymhen llai na 100 diwrnod bydd digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru, BlasCymru/TasteWales, yn dychwelyd

Cyfrif i lawr y dyddiau hyd nes y bydd Cymru’n ganolbwynt i fyd bwyd a diod

Ymhen llai na 100 diwrnod bydd digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru, BlasCymru/TasteWales, yn dychwelyd.

Caiff digwyddiad Blas Cymru ei drefnu gan Bwyd a Diod Cymru, Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru, ac mae’n gynhadledd a digwyddiad masnach cenedlaethol a rhyngwladol, sy'n rhoi cyfle i brynwyr a chynhyrchwyr ddatblygu busnes newydd. 

Un o'r cynhyrchwyr fydd yn mynychu BlasCymru/TasteWales 2021, i weld drostynt eu hunain y gwaith sy'n cael ei wneud yn y cwmni, fydd Terry’s Patisserie.

Mae Terry’s Patisserie wedi’i leoli yng Nghaerffili ac mae’n fusnes teuluol annibynnol a sefydlwyd yn 2011 sy'n arbenigo mewn cynhyrchu a chyflenwi amrywiaeth o bwdinau uchel eu bri sydd o ansawdd uchel.

Mae hefyd yn rhan o Glwstwr Bwyd Cain a Diod Cymru Llywodraeth Cymru a fydd yn dod ag amrywiaeth o gynhyrchwyr cynhyrchion o ansawdd uchel i'r digwyddiad masnach gydag uchelgais i dyfu a chyflwyno yn y digwyddiad ochr yn ochr â phartneriaid masnachol, partneriaid o fewn y llywodraeth a phartneriaid academaidd. Mae'r clwstwr yn creu cyfleoedd i weithio gyda busnesau eraill i oresgyn rhwystrau er mwyn tyfu a manteisio ar gyfleoedd masnachol.

Dywedodd Rhys Williams, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Terry’s Patisserie, "Bydd BlasCymru yn ffrwyth dros 18 mis o gynllunio ac ymdrech parhaus gan ein cwmni a llawer o fusnesau bwyd a diod eraill yng Nghymru. Ar ôl i ni ehangu ein tîm, gweithredu systemau newydd a mireinio ein cynnyrch, mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i arddangos ein busnes i; uwch fanwerthwyr, cyfanwerthwyr a llawer mwy, mae trefn y sioe yn cynnig y llwyfan gorau posibl. Yn ddi-os, mae'r digwyddiad hefyd yn creu amser i gwrdd â busnesau eraill tebyg a ffurfio'r perthnasau hanfodol hynny, yn enwedig gan fod gan Gymru ethos mor gryf a chysylltiedig o ymdrechion a rennir."

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd Lesley Griffiths: "Mae gennym gymaint o gynhyrchwyr rhagorol yng Nghymru, gan gynnwys Terry's, ac mae hyn yn rhywbeth i'w ddathlu. Bydd y digwyddiad ym mis Hydref yn creu cyfle iddynt arddangos yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig."

Mae BlasCymru/TasteWales 2021 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru), Gwesty'r Celtic Manor, Casnewydd ar 27 a 28 Hydref 2021, yn ddigwyddiad dau ddiwrnod a bydd yn galluogi i brynwyr bwyd a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant gyfarfod â busnesau bwyd a diod blaenllaw yng Nghymru.  Bydd hanner y digwyddiad yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb a’r hanner arall yn rhithwir. 

Bydd dros 200 o gynhyrchion newydd yn cael eu lansio yn BlasCymru/TasteWales mewn ystod eang o gategorïau, ac mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i sicrhau'r gwerth gorau posibl i brynwyr drwy eu helpu â’r canlynol:

  • darparu arddangosfa ar raddfa fawr ar gyfer cynnyrch;
  • dod o hyd i fwyd a diod o Gymru - o frandiau i labeli preifat;
  • cwrdd ag ystod eang o gyflenwyr;
  • trefn cyfarfodydd cychwynnol sy'n effeithlon o ran amser.

Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru eisoes yn paratoi’n drylwyr ac mae ffigurau newydd yn dangos swyddogaeth hanfodol y digwyddiad o ran dod â phrynwyr a busnesau ynghyd. Llwyddodd digwyddiad 2019 i sbarduno gwerth bron i £20m mewn gwerthiannau a gadarnhawyd ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.

Princes Limited, un o'r enwau mwyaf yn niwydiant bwyd a diod y DU, fydd prif noddwr y digwyddiad, a bydd cwmnïau eraill amrywiol yn cefnogi’r arddangosfa fwyaf erioed o fwyd a diod o Gymru.

I gael rhagor o wybodaeth am BlasCymru/TasteWales 2021 ewch i https://www.tastewales.com/cy/