English icon English

“Mae plant angen help o hyd er ei bod yn wyliau haf”

“Children don’t stop needing help just because it’s summer”

Bydd cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu miloedd o blant ledled Cymru i gadw’n heini, i ymwneud ag eraill ac i gael digon i’w wneud yr haf hwn.

Bydd llawer o ysgolion yn parhau i ddarparu gweithgareddau, bwyd iach ac addysg maetheg yn ystod gwyliau’r haf, diolch i Raglen Gwella Gwyliau’r Haf Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4.85 miliwn o gyllid i’r rhaglen eleni, a fydd yn darparu lleoedd i bron i 8,000 o blant wrth iddynt barhau i fwynhau amser yn yr ysgol yn ystod y gwyliau.

Ymunodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, â phlant mewn Clwb Bwyd a Hwyl a gefnogir gan y Rhaglen yn Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri heddiw (dydd Mawrth, 20 Gorffennaf), i weld drosto ei hun y gefnogaeth y mae’r rhaglen yn ei darparu.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae’n wych gweld cynifer o blant yn elwa ar yr addysg, y gweithgareddau a’r bwyd iach a ddarperir gan ein cynllun Rhaglen Gwella’r Gwyliau Haf.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i athrawon a dysgwyr ledled Cymru, ond mae plant angen help o hyd er ei bod yn wyliau haf.

“Yn llawer o’r ysgolion lle mae Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf yn darparu cymorth, mae cyfran uchel o’r disgyblion yn cael Prydau Ysgol am Ddim, ac mae’r rhaglen yn rhoi lefel o sicrwydd i rieni a gofalwyr y bydd y plant yn parhau i gael cefnogaeth a chyfle i fwynhau yn ystod y gwyliau, er bod busnes arferol mewn ysgolion wedi dod i ben.

“Mae wedi bod yn galonogol iawn gweld y cynnydd y mae’r rhaglen wedi’i wneud mewn dim ond chwe blynedd, a hoffwn ddiolch i bob un o’n partneriaid sydd wedi gweithio mor galed i godi ymwybyddiaeth o’r rhaglen, gan ledaenu cymorth y rhaglen i blant a theuluoedd ledled Cymru.”

Mae’r gwaith o ddarparu’r Rhaglen yn cael ei gydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae’r rhaglen yn cael ei chynnal gyda help partneriaid, gan gynnwys ysgolion ac awdurdodau.

Fe wnaeth y Gweinidog hefyd ymuno â phlant yn Ysgol Bro Edern, Caerdydd, am gyfres o weithgareddau fel rhan o raglen wyliau haf yr Urdd, a gefnogir gan gyllid o gynllun Wên o Haf

DIWEDD