English icon English

Dyfarnu Croes y Brenin Siôr i GIG Cymru am ei ymateb i’r pandemig – ar ben-blwydd y GIG yn 73

NHS Wales awarded George Cross on 73rd birthday in honour of pandemic efforts

Mae Croes y Brenin Siôr wedi’i dyfarnu i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, gan gydnabod ymdrech aruthrol pawb sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG yn ystod y pandemig.

Mae’r Groes, nad yw’n cael ei rhoi i sefydliadau’n aml, yn cydnabod gweithredoedd o ddewrder eithriadol wrth geisio achub bywydau pobl eraill.

Daw’r dyfarniad ar y diwrnod (5 Gorffennaf) pan fo’r GIG yn nodi 73 o flynyddoedd ers ei sefydlu. Mae’n cydnabod gwaith y GIG nid yn unig dros y misoedd anodd diwethaf, ond hefyd bob dydd ers ei greu ym 1948.

Yn ddiweddar, gwnaeth Pwyllgor Croes y Brenin Siôr gynghori Prif Weinidog y DU y dylid cydnabod y GIG yn y ffordd hon. Ar ôl trafodaethau â’r Prif Weinidogion eraill, penderfynwyd y dylid dyfarnu Croes y Brenin Siôr ar wahân i bob un o’r pedair gwlad.

Mae Croes y Brenin Siôr fel arfer yn cael ei chyflwyno gan aelod blaenllaw o’r Teulu Brenhinol mewn seremoni, a bydd y Palas yn gwneud y trefniadau ar gyfer hyn maes o law.

Un dyfyniad a briodolir i Aneurin Bevan, AS Glyn Ebwy a sefydlodd y GIG, yw: ‘Bydd y Gwasanaeth Iechyd yn para cyhyd â bod pobl yn barod i frwydro drosto’. Dywedodd y Gweinidog Iechyd presennol, Eluned Morgan, y byddai ef wedi bod yn falch o weld sut mae’r Gwasanaeth wedi perfformio dros y 18 mis diwethaf – ddegawdau ar ôl iddo roi ei freuddwyd ar waith.

“Mae’r wobr hon nid yn unig yn cydnabod y rhai sy’n gweithio yn y Gwasanaeth heddiw, ond hefyd bawb sydd wedi gweithio yn y sefydliad amhrisiadwy hwn dros yr holl flynyddoedd ers ei greu,” meddai.

“Mae’n anodd mynegi pa mor ddiolchgar ydyn ni i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am bopeth y mae wedi’i wneud drwy gydol y pandemig, gan fynd yr ail filltir i’n trin, gofalu amdanom a’n cefnogi.

“Arwydd bach yw’r wobr hon o’n gwerthfawrogiad am eu gwasanaeth arwrol a pha mor ddyledus ydyn ni iddyn nhw am eu gwaith.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw’r pandemig drosodd eto ac mae llawer o heriau o’n blaenau o hyd, ond os ydyn ni wedi dysgu unrhyw beth dros y 18 mis diwethaf, y peth hwnnw yw bod nerth cymeriad, calon a dygnwch y Gwasanaeth Iechyd yn ddiamheuol. Rydyn ni’n eithriadol o ffodus bod gennym wasanaeth o’r fath.”

Gan atseinio clod y Gweinidog, dywedodd Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, fod pawb sydd wedi ymdrechu mor galed yn ystod y pandemig yn haeddu canmoliaeth.

“Mae gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru wedi dangos gwydnwch, angerdd, proffesiynoldeb ac ymroddiad drwy gydol un o heriau mwyaf ein hoes,” meddai.

“Maen nhw wedi bod yno i ni a’n hanwyliaid pan nad oedd modd i neb arall fod yno, gan ysgwyddo beichiau corfforol ac emosiynol enfawr.

“Drwy gydol y cyfnod anodd diweddar, rydyn ni wedi dangos ein gwerthfawrogiad am eu gwaith drwy guro ein dwylo ar garreg drws ac arddangos yr enfys yn ein ffenestri. Rwy’n gobeithio mai effaith hirdymor y pandemig yw y byddwn yn trysori’r Gwasanaeth Iechyd a’i staff yn fwy fyth yn y dyfodol.

“Mae’r wobr heddiw’n deyrnged addas i staff y Gwasanaeth, ond rwy’n gwybod y byddai’r rhai sy’n gweithio ynddo yn falch o ymuno â mi wrth gydnabod cyfraniad pawb sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Iechyd hefyd.

“Mae hyn yn cynnwys cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol, gweithwyr allweddol a gwirfoddolwyr sydd wedi camu ymlaen pan oedd eu hangen. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys y cyhoedd sydd wedi aberthu cymaint ar hyd y ffordd. Mae’r ymateb wedi bod yn un ar y cyd rhwng pawb.”