Skip to main content

Testing begins on new Transport for Wales trains

26 Gor 2021

Mae’r trenau newydd sy’n cael eu hadeiladu fel rhan o drawsnewid rhwydwaith Cymru a’r Gororau wedi cyrraedd carreg filltir allweddol arall wrth iddyn nhw ddechrau cael eu profi yn Ewrop.

Mae’r Fast Light Intercity and Regional Trains (FLIRTs) yn cael eu hadeiladu gan y gwneuthurwr blaenllaw Stadler ac nawr wrthi’n cael eu profi yn y Swistir, lle mae pencadlys y cwmni.

Byddan nhw wedyn yn cael eu trosglwyddo i Dde Cymru ar gyfer rhagor o brofion ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a byddan nhw’n dechrau cael eu defnyddio o ddiwedd y flwyddyn nesaf ymlaen.

Mae FLIRTs yn rhan allweddol o gynlluniau trawsnewid TrC a bydd y 35 o drenau ychwanegol yn rhedeg ar rwydwaith Metro De Cymru. Bydd y FLIRTs tri modd Class 756 newydd yn gwasanaethu ar reilffyrdd Rhymni, Coryton a Bro Morgannwg. Bydd y trenau FLIRTs disel Class 231 yn gwasanaethu ar reilffyrdd rhwng Caerdydd a Glynebwy, Maesteg a Cheltenham.

Bydd gan y trenau fwy o gapasiti, byddan nhw’n amlach a bydd ganddyn nhw gyfleusterau gwell gan gynnwys socedi pŵer, sgriniau gwybodaeth a system awyru drwyddi draw. Bydd lle i hyd at chwe beic ar bob trên a mynediad gwastad i helpu’r rheini sydd â symudedd cyfyngedig.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “O’r diwrnod cyntaf yn TrC, ein prif nod oedd trawsnewid trafnidiaeth a gwella profiad y cwsmer.  Bydd y trenau newydd sbon hyn sydd â chyfleusterau gwell yn darparu gwasanaeth modern i bobl Cymru. 

“Rydyn ni eisiau wedi dechrau profi rhai o’n trenau newydd yng Nghymru ac rwy’n falch bod ein FLIRTs Stadler nawr yn cael eu profi yn Ewrop ac yna byddan nhw’n cael eu hanfon atom i’w profi ar ein rhwydwaith ni.

“Mae ein timau’n bwrw ymlaen i adeiladu Metro De Cymru ac rydyn ni’n symud ymlaen gyda’r trenau newydd a fydd yn darparu gwasanaeth cyrraedd a mynd modern sy’n fwy gwyrdd i’r amgylchedd.”

Dywedodd Sandro Muster, rheolwr prosiect yn Stadler: “Y FLIRT yw cynnyrch mwyaf poblogaidd Stadler i deithwyr. Rydyn ni wedi gwerthu dros 1,970 mewn 21 o wledydd. Maen nhw’n ddibynadwy, yn arloesol ac yn addas i bron bob hinsawdd a daearyddiaeth, gan gynnwys dinasoedd a rhanbarthau fel ei gilydd.

“O’r 35 FLIRT ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, bydd 24 uned yn dri modd, sy’n gallu rhedeg ar ddisel, gwifrau trydan uwchben, yn ogystal â phŵer batri, sy’n tanlinellu galluoedd gwyrdd Stadler a’i ymrwymiad i ddatgarboneiddio.”

Dyma’r diweddaraf mewn nifer o ddatblygiadau fflyd cyffrous a gyhoeddwyd gan TrC eleni.

Fis diwethaf, lansiodd TrC wasanaeth rheilffordd gwell rhwng Caerdydd a Chaergybi gyda mwy o gapasiti a cherbydau intercity wedi’u hadnewyddu’n llawn, a chyhoeddodd y byddai rhagor o gerbydau Mark 4 o ansawdd uchel yn cael eu defnyddio rhwng De Cymru ym Manceinion o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Mae profion hefyd wedi dechrau ar y trenau Class 197 newydd sy’n cael eu cydosod yng Nghasnewydd.