English icon English
PO 200521 Miles 25-2

Cyhoeddi newidiadau i gadw ysgolion yn ddiogel a dysgwyr yn dysgu

Changes to keep schools safe and learners learning

Heddiw mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi ysgrifennu at bob pennaeth yng Nghymru i roi mwy o eglurder am sut gall ysgolion a cholegau barhau i weithredu'n ddiogel pan fyddant yn dychwelyd ym mis Medi.

Wrth i ni barhau i fonitro cyfraddau achosion covid ledled Cymru, a sut maent yn ymwneud â derbyniadau i ysbytai, mae llwyddiant ein rhaglen frechu yn rhoi achos i ni fod yn optimistig ynghylch y dyfodol. Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ar draws y gymdeithas ehangach, dylai lleoliadau addysgol weld patrwm tebyg hefyd.

Mae tri phrif newid yn cael eu cynnig i ddod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl i addysg cyn tymor newydd yr hydref. Dyma’r newidiadau:

  • Ni fydd gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell bellach yn rheolaidd mewn ystafelloedd dosbarth;
  • Ni fydd angen grwpiau cyswllt mwyach ar gyfer disgyblion ysgol na dysgwyr llawn amser mewn colegau. Byddwn yn defnyddio ein system Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) er mwyn nodi cysylltiadau agos dysgwyr sydd wedi profi'n bositif.
  • Bydd amseroedd sesiwn arferol yn ailddechrau.

Dywedodd y Gweinidog,

“Erbyn diwedd mis Medi bydd pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig y ddau frechlyn, gan ddarparu mwy o ddiogelwch i’n gweithlu addysg. Mae corff cynyddol o dystiolaeth hefyd yn dangos bod plant a phobl ifanc yn profi mwy o niwed o golli'r ysgol nag o covid.

“Mae llawer o’r bobl ifanc rydw i wedi siarad â nhw wedi dweud nad ydyn nhw'n credu bod y system bresennol yn gymesur. Maen nhw eisiau cael eu trin yr un fath â phawb arall - ac mae hynny'n swnio'n deg i mi.”

Byddwn yn cyhoeddi’r Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Covid-19 Lleol ar ddechrau tymor yr hydref fel bod ysgolion yn cael amser i ymgorffori systemau newydd yn ystod yr wythnosau sy'n dilyn. Bydd y fframwaith yn galluogi ysgolion a cholegau i deilwra rhai o'r ymyriadau i adlewyrchu lefel y risg yn lleol. Byddant yn cael eu cefnogi gan swyddogion iechyd cyhoeddus ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y mesurau'n briodol i'w hamgylchiadau.

Dywedodd y Gweinidog hefyd,

"Cyn dechrau eich seibiant cwbl haeddiannol dros yr haf eleni hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i fynegi fy niolchgarwch am eich holl waith caled a’ch ymdrech yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Rwy'n gobeithio y bydd y seibiant yn gyfle i chi, a'ch staff, edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf gyda balchder aruthrol - rydych chi wedi dangos penderfyniad a gwytnwch anfesuradwy wrth gefnogi’r dysgu a chadw lleoliadau addysg mor ddiogel â phosibl o ran covid. Diolch o galon i chi.”