Skip to main content

Taff’s Well biodiversity project delivered by TfW and Alun Griffiths

23 Gor 2021

Mae prosiect i roi hwb i fioamrywiaeth yn neuadd bentref Ffynnon Taf wedi cael ei lansio gan Trafnidiaeth Cymru ac Alun Griffiths, y prif gontractwr peirianneg sifil ac adeiladu.

Ddydd Sadwrn (17 Gorffennaf) gosodwyd 10 o botiau blodau mawr a blychau chwilod a bywyd gwyllt wrth y neuadd bentref gan wirfoddolwyr o’r gymuned leol a staff o TrC ac Alun Griffiths.

Dywedodd Mike Phillips, cadeirydd neuadd bentref Ffynnon Taf: “Mae hwn yn brosiect gwych a’r peth gorau un yw bod y gymuned yn cymryd rhan ynddo.

“Mae’n gymuned wych yma yn Ffynnon Taf. Mae llu o wirfoddolwyr wedi bod yn ein helpu. Mae pobl wedi bod yn dod yma ddydd ar ôl dydd ac yn rhoi o’u hamser dim ond i’n helpu ni.

“Mae’n debyg y bydd hyn yn para am y ddau fis nesaf a bob dydd Sadwrn bydd rhywun yma. Os oes gan rywun hanner awr yn sbâr, grêt!”

Mae’r prosiect yn rhan o gynllun ehangach gan TrC sydd wedi’i ddylunio i gefnogi gwelliannau bioamrywiaeth mewn 22 o orsafoedd ar draws y rhwydwaith yng Nghymru, ac mewn pum ardal gymunedol sy’n agos at y gorsafoedd trenau hefyd, fel ffordd o uno llwybrau gwyrdd ar draws y rhwydwaith trenau.

Mae TrC wedi cael grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gwerth £100,000 ar gyfer y prosiect gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Dreftadaeth.

Dywedodd Dr Louise Moon, rheolwr prosiect ar gyfer cynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r prosiect wedi cael ei ddylunio i gefnogi mwy o nodweddion bioamrywiaeth yn y neuadd, sydd ychydig i lawr y ffordd o’r orsaf drenau, i gefnogi pryfed peillio’n arbennig ac i annog pryfed peillio i ddefnyddio’r ardal hon.

“Bydd yn cefnogi natur ac yn rhoi llwybr mynediad iddynt rhwng tirwedd yr orsaf a’r rheilffordd a’r gymuned ehangach.”

Dyma’r ail brosiect y bydd Alun Griffiths wedi’i gwblhau yn Ffynnon Taf dros y misoedd diwethaf, ar ôl rhoi llawer iawn o bren ar gyfer meinciau a photiau blodau yng Ngardd Goffa Ffynnon Taf ar ôl iddyn nhw golli eu holl ddodrefn pren mewn llifogydd.

Ychwanegodd Terry Davies, swyddog cyswllt cyhoeddus Alun Griffiths Construction ar yr is-adran rheilffyrdd: “Mae Alun Griffiths yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â Trafnidiaeth Cymru a neuadd bentref Ffynnon Taf ac yn falch o helpu gyda’r prosiect bioamrywiaeth gwych hwn i helpu’r gymuned.

“Fe wnaethon ni adeiladu potiau blodau mawr yn ein safle yn Ffynnon Taf, dod â nhw draw ac mae’r gymuned wedi bod yn help enfawr.

“Rydyn ni’n falch iawn o helpu drwy ddarparu’r potiau blodau ar gyfer y prosiect hwn.”

Nodiadau i olygyddion


Photo (left to right) Mike Phillips Chairman of Taff's Well Community Hall, Tomos Davies Transport for Wales Community Engagement Officer, Dr Louise Moon project manager for sustainability for Transport for Wales and Terry Davies public liaison officer for Alun Griffiths Ltd