Skip to main content

Train naming competition winners announced

14 Gor 2021

‘Llyn Barfog’, ‘Deva Victrix’ a ‘Ruabon Ruby Rooster’ – dyma rai o’r enwau buddugol a gynigiwyd gan blant ledled Cymru a’r gororau ar gyfer trenau newydd Trafnidiaeth Cymru.  

Mae pum panel beirniadu rhanbarthol wedi dewis y cynigion buddugol, a phrif enillydd rhanbarthol ar gyfer eu hardaloedd. Yn dilyn hynny, roedd panel beirniadu terfynol – a oedd yn cynnwys seren CBBC, athro a Grace Webb, cyflwynydd chwaraeon moduro – yn dewis prif enillwyr ar gyfer tri chategori creadigol: y gerdd orau, y stori fer orau a’r llun gorau.

Gyda’i gilydd, mae dros 110 o enillwyr o ysgolion o bob cwr o Gymru a’r gororau, a bydd yr enwau i’w gweld ar y trenau newydd a fydd yn dechrau cael eu defnyddio y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â chael enwi un o drenau newydd sbon TrC, bydd pob enillydd yn cael pecyn creadigol arbennig gan TrC, a bydd enillwyr y categorïau creadigol a rhanbarthol yn cael model Hornby unigryw o’u trên.

Dywedodd Grace Webb, sy’n cyflwyno ‘Grace’s Amazing Machines' ar Cbeebies: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan, ac maen nhw wedi bod yn greadigol dros ben.

“Roedd dewis y prif enillydd yn benderfyniad anodd iawn gan fod y safon mor uchel, a gall pob un ohonyn nhw fod yn falch iawn o’r gwaith maen nhw wedi’i wneud.

“Mae hi wedi bod yn bleser barnu’r gystadleuaeth, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld y trenau newydd, gyda’u henwau gwych, yn teithio ar hyd y rhwydwaith.”

Roedd cystadleuaeth y Daith Drên Odidog hefyd yn darparu pecyn dysgu rhyngweithiol i athrawon ac ysgolion a oedd yn seiliedig ar bynciau fel cynaliadwyedd a thrafnidiaeth, trenau hen a newydd, straeon o bob cwr o Gymru a’r gororau, a llefydd i ymweld â nhw ar y trên.

Dywedodd Megan Roseblade, arweinydd prosiect Trafnidiaeth Cymru a chyn-athrawes: “Ar ran pawb yn Trafnidiaeth Cymru, hoffwn ddiolch i’r holl blant a roddodd o’u hamser i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan safon y cynigion.

“Roedd hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i enwi’r trenau newydd a fydd yn helpu i drawsnewid rhwydwaith Cymru a’r Gororau, a chafwyd ymateb gwych i’r her.

“Roedden ni hefyd eisiau ysbrydoli’r plant i ddysgu mwy am drafnidiaeth, y newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd a’u hanes lleol a chenedlaethol, ac rydyn ni’n falch iawn bod y gystadleuaeth wedi bod mor llwyddiannus.”

Mae rhestr lawn o’r holl enillwyr i'w gweld ar wefan Trafnidiaeth Cymru: https://trc.cymru/enillwyr-y-daith-dren-odidog 

Llwytho i Lawr