English icon English

Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau diogelwch adeiladau

Welsh Government takes action on building safety

Heddiw (dydd Mercher, 14 Gorffennaf), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ariannu arolygon diogelwch tân ar gyfer adeiladau aml-feddiannaeth sydd dros 11 metr, er mwyn sicrhau diogelwch o'r safon uchaf i breswylwyr.

Cadarnhaodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y bydd yr arolygon yn cael eu hariannu gan Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, a galwodd ar Lywodraeth y DU i gadarnhau pryd y daw rhagor o gyllid canlyniadol i Gymru.

Bydd pob adeilad dros 11m yn gymwys i wneud cais, a bydd yr adeiladau uchel (18m+) yn cael blaenoriaeth i ddechrau.

Bydd yr arolygon yn mynd y tu hwnt i broblemau sy'n ymwneud â chladin, gan gynnwys asesu materion mewnol fel compartmentau aneffeithiol.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am dai: "Yr hyn nad ydyn ni'n ei wybod eto yw faint yn union o adeiladau sy'n cael eu heffeithio ac i ba raddau.

"Mae'n hollbwysig ein bod ni'n gallu deall gwir raddfa'r broblem er mwyn mynd i'r afael â hi'n briodol.

"Mae pob adeilad yn wahanol a bydd yr arolygon diogelwch tân yn nodi pa fesurau a chamau sydd eu hangen i wneud adeilad amlbreswyl mor ddiogel ag y gall fod, er mwyn diogelu bywydau ac eiddo os bydd tân."

Mae camau eisoes wedi’u cymryd i fynd i'r afael â'r heriau cymhleth hyn, gan gynnwys sicrhau bod pob adeilad a nodwyd yng Nghymru sydd â chladin ACM wedi’u hadfer heb unrhyw gost ychwanegol i lesddeiliaid. Roedden ni hefyd wedi neilltuo £10.5m y llynedd i adfer adeiladau yn y sector cymdeithasol – ac yn sgil hynny roedd 12 adeilad wedi elwa ar y cymorth hwnnw.

Bydd canfyddiadau'r arolygon yn llywio'r broses o greu 'Pasbort Adeilad – Diogelwch Tân' a gaiff ei ddatblygu gan y rhai sy'n gyfrifol am adeiladau. Bydd hwnnw’n nodi pa ddiffygion sydd wedi'u hamlygu, pa gamau adferol sydd eu hangen a phryd y mae angen gweithredu mesurau diogelwch tân.

Bydd hefyd yn amlinellu sut mae'r gwaith a argymhellir yn cyd-fynd â gwaith arall sy'n ofynnol ar gyfer yr adeilad, gan gynnwys mesurau cynnal a chadw cynlluniedig a mesurau datgarboneiddio posibl.

Bydd y cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau gan bersonau cyfrifol, perchnogion adeiladau a/neu gwmnïau rheoli yr hydref hwn.

Mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn cael ei datblygu ochr yn ochr â chynlluniau deddfwriaethol i ddiwygio'r system bresennol ar gyfer diogelwch adeiladau. Gwneir hynny i sicrhau nad yw preswylwyr adeiladau aml-feddiannaeth yng Nghymru yn wynebu'r problemau hyn yn y dyfodol.