English icon English
Breast Test Wales-2

Buddsoddi dros £7.8m mewn offer newydd ar gyfer gwasanaeth Bron Brawf Cymru

Over £7.8m invested in new equipment for Breast Test Wales service

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan heddiw (dydd Gwener 9 Gorffennaf) y bydd Bron Brawf Cymru, sydd fel arfer yn sgrinio 110,000 o fenywod bob blwyddyn, yn cael £7.845m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i brynu offer delweddu newydd.

Canser y fron yw’r canser mwyaf cyffredin mewn menywod yng Nghymru. Rhoddir diagnosis ar gyfer 70% o achosion canser y fron yng ngham un neu yng ngham dau yng Nghymru ac mae’r rhaglen Bron Brawf Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol er mwyn helpu i ddarganfod canser y fron yn gynnar.

Mae’r gwasanaeth, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn estyn gwahoddiad i fenywod rhwng 50 a 70 oed i gael eu sgrinio bob tair blynedd. Mae’r rhaglen yn chwilio am ganser y fron, cyn i symptomau ddod i’r amlwg, gan ddefnyddio mamogram i alluogi canfod canser yn gynnar.

Bydd y cyllid newydd, dros y ddwy flynedd nesaf, yn cael ei fuddsoddi ar draws Cymru i brynu unedau symudol newydd, diweddaru canolfannau a sicrhau offer 3D a biopsi newydd.  

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae gwasanaethau sgrinio am ganser yn helpu i sicrhau gwell canlyniadau i unigolion. Mae’n fwy tebygol y bydd triniaeth canser y fron yn llwyddiannus pan fydd y canser yn cael ei ddarganfod yn gynnar.

“Yng Nghymru rhwng 2001 a 2017 fe wnaeth y gyfradd farwolaeth o ganser y fron leihau bron i 25%. Bydd y buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau y bydd gwasanaethau sgrinio’r fron yn parhau i ddiwallu’r galw yn awr ac yn y dyfodol.”

Dywedodd Dean Phillips – Pennaeth Rhaglen Bron Brawf Cymru: “Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau y gall Bron Brawf Cymru barhau i gynnig gwasanaeth sgrinio’r fron o’r safon uchaf gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf a chyfleusterau rhagorol. Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’r cyllid hwn i’r rhaglen sgrinio’r fron yng Nghymru. Bydd hyn yn galluogi i’n staff barhau i gynnig y gwasanaeth pwysig hwn yng Nghymru mor lleol â phosibl, gan ddefnyddio offer o safon uchel, sy’n newyddion gwych.”