English icon English
mhorwood Covid 19 Oxford-Astrazeneca Vaccine 040121 31

Mae brechu yn achub bywydau: pecyn cymorth newydd i helpu cyflogwyr i annog eu staff i gael brechlyn Covid-19

Vaccination saves lives: new toolkit to help employers encourage employees get Covid-19 vaccine

Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu eu gweithlu i gael eu brechu.

Mae pecyn cymorth newydd yn cael ei lansio heddiw i gefnogi busnesau a sefydliadau wrth iddyn nhw helpu eu gweithwyr i gael y brechlyn Covid-19.

Mae’r cyfraddau brechu yng Nghymru ymysg y gorau yn y byd ac mae cynnydd aruthrol wedi’i wneud yn y saith mis diwethaf. Erbyn hyn, mae dros dri chwarter oedolion Cymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos.

Mae brechu wedi helpu i wanhau’r cysylltiad rhwng heintiau’r coronafeirws a salwch difrifol a derbyniadau i’r ysbyty. Ond mae perygl y gallai rhagor o bobl fynd yn ddifrifol wael os na fydd y cyfraddau brechu yn cynyddu ymhellach wrth i’r amrywiolyn Delta barhau i ledaenu yng Nghymru a gweddill y DU.

Mae Gweinidogion wedi dweud nad yw byth yn rhy hwyr i dderbyn y cynnig o frechiad yng Nghymru.

Mewn ymgais i gynyddu’r cyfraddau brechu ymhellach fyth, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, a’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, heddiw’n lansio pecyn cymorth newydd i gefnogi cyflogwyr.

Bydd yn eu hannog i wneud y canlynol:

  • Bod mor hyblyg â phosibl pan fydd yn amser i staff gael brechlyn, a allai gynnwys rhoi amser o’r gwaith gyda thâl i weithwyr fynd i’w hapwyntiadau ar gyfer y ddau ddos o’r brechlyn
  • Defnyddio adnoddau’r ymgyrch a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth yn eu sefydliad a rhoi mynediad i weithwyr at wybodaeth ddibynadwy a chywir am y brechlyn
  • Rhannu’r ddogfen Holi ac Ateb a’r fideos cyngor arbenigol i egluro’r brechlyn ac ateb cwestiynau cyffredin sydd gan weithwyr
  • Annog staff i fod yn wyliadwrus o gamwybodaeth, a’u hannog i ddefnyddio ffynonellau dibynadwy fel icc.gig.cymru os ydynt yn chwilio am wybodaeth neu atebion i gwestiynau am y brechlyn
  • Creu hyrwyddwyr brechu ar gyfer gweithwyr drwy annog staff i drafod eu profiadau a rhannu gwybodaeth â chydweithwyr, teulu a ffrindiau

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Brechiadau yw’r ffordd allan o’r pandemig hwn. Maent yn helpu i amddiffyn pobl rhag salwch difrifol ac yn ein helpu ni i gyd i ddychwelyd i fywyd mwy normal. Er mwyn i’r brechlyn fod mor effeithiol â phosibl, mae’n bwysig iawn bod cynifer o bobl â phosibl yn ei gael.

“Rydym yn galw ar gyflogwyr yng Nghymru i annog eu gweithwyr i gael eu brechu. Mae busnesau a sefydliadau’n chwarae rhan hollbwysig o ran helpu i hyrwyddo neges gadarnhaol am frechu a helpu i wneud yn siŵr bod gweithleoedd yn ddiogel a bod gweithwyr yn cael eu diogelu.

“Dim ond drwy ymdrech ar y cyd y byddwn ni’n annog cynifer o bobl â phosibl i gael y brechlyn Covid-19.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Rhaglen frechu Covid-19 yw’r rhaglen frechu fwyaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd. Mae eisoes wedi achub miloedd o fywydau.

“Mae pobl sydd wedi’u brechu yn llawer llai tebygol o fynd yn ddifrifol wael, o gael eu derbyn i’r ysbyty neu o farw o’r feirws ofnadwy hwn.

“Mae ein neges yn glir – ymunwch â’r miliynau sydd wedi’u brechu’n barod. Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu Cymru.”

Dywedodd Joanna Swash, Prif Swyddog Gweithredol y Grŵp yn y cwmni o Wrecsam, Moneypenny.Com:

“Rydym yn llwyr gefnogi’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gynnal y rhaglen frechu Covid-19. Lles a diogelwch ein gweithwyr yw ein blaenoriaeth bennaf bob amser.

“Mae gennym dros 900 o bobl yn ein pencadlys yn Wrecsam ac rydym wedi cymryd camau i annog ein timau i gael eu brechu drwy roi amser i ffwrdd iddyn nhw wneud apwyntiadau ar gyfer eu brechiad. Rydym yn credu ei bod er budd pawb inni gael ein brechu fel cymuned fel y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i helpu i reoli lledaeniad y feirws hwn.”

Dywedodd Jacki Simpson, Is-lywydd Gweithrediadau Pobl yn Asda:

“Yn Asda mae diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid wedi bod yn hollbwysig drwy gydol y pandemig, ac fel gweithwyr allweddol mae ein cydweithwyr wedi bod yn y rheng flaen yn bwydo’r genedl. Wrth i’r rhaglen frechu genedlaethol gael ei rhoi ar waith, rydym wedi parhau i gefnogi ein cydweithwyr drwy ein polisi brechu penodol sy’n rhoi arweiniad a gwybodaeth i’n cydweithwyr a’n timau arwain.

“Rydym hefyd wedi cynyddu ein hawl bresennol i amser i ffwrdd â thal i’n holl gydweithwyr i’w galluogi i fynd i’w hapwyntiadau brechu. Yn ogystal, rydym wedi cynnig amser i ffwrdd â thal ar ôl eu brechiad i unrhyw gydweithiwr sydd ei angen.

“Drwy gyfathrebu’n rheolaidd â chydweithwyr, rydym wedi’u cyfeirio at y ffynonellau gwybodaeth swyddogol, fel gwefannau’r Gwasanaeth Iechyd a’r Llywodraeth, gan eu hannog i ystyried yr wybodaeth honno er mwyn gwneud eu penderfyniad eu hunain, ar sail y dystiolaeth, ynglŷn â’r brechlyn.”

Hyd yn oed ar ôl cael y brechlyn Covid-19, mae’n hanfodol bod pawb yn parhau i wneud y pethau bychain i ddiogelu eu hunain a’r rhai sy’n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys golchi dwylo’n rheolaidd, cadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau o dan do pan fo hynny’n ofynnol, cwrdd â phobl yn yr awyr agored, sicrhau bod digonedd o awyr iach mewn ystafelloedd os oes angen ichi fod y tu mewn, a chael prawf Covid-19 os ydych yn meddwl bod gennych symptomau.