- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
26 Gor 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru, ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd a Bws Casnewydd yn cynyddu ardal y mae’r Gwasanaeth fflecsi yn ei wasanaethu yn sylweddol, sy'n golygu y bydd fflyd o 9 bws bach newydd sbon nawr yn gwasanaethu Casnewydd gyfan.
Yn dilyn llwyddiant y peilot fflecsi cyntaf yng Nghymru a lansiwyd mewn dwy ardal yng Nghasnewydd y llynedd (Tŷ Du a St Julian's), bydd y gwasanaeth newydd hwn yn ategu at ac yn gwella'r gwasanaethau bysiau a drefnwyd eisoes a bydd yn lansio'r haf hwn.
Bydd y bysiau fflecsi yn rhoi mynediad i lawer mwy o bobl ledled Casnewydd i drafnidiaeth gyhoeddus, gan weithredu rhwng 6.00am a 11.00pm (dydd Llun - dydd Sadwrn) gan alluogi preswylwyr i ddefnyddio'r gwasanaeth llawer ehangach hwn i deithio yn gynnar yn y bore tan yn hwyr y nos. Bydd gwasanaeth dydd Sul hefyd ar gael rhwng 9.00am a 7.00pm. Nod y cynllun yw ei gwneud hi'n haws i breswylwyr gyrraedd y gwaith, yr ysgol neu apwyntiadau, ar gyfer siopa, cwrdd â ffrindiau neu gysylltu â bysiau a threnau eraill.
Rydych chi'n talu ar y bws fel unrhyw wasanaeth arall a bydd y prisiau yr un fath ag ar wasanaethau Bws Casnewydd a bydd tocynnau rhatach a Thocyn MyTravel hefyd yn ddilys. Y gwahaniaeth mwyaf yw bod yn rhaid i chi archebu'r tocyn bws ar yr ap neu dros y ffôn. Bydd yr ap neu'r ganolfan alwadau yn cynnig y dewis teithio gorau i chi, p'un ai yw hynny ar Fws Casnewydd lleol neu trwy'r gwasanaeth fflecsi.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae'r gwasanaeth arloesol hwn yn rhan bwysig o weledigaeth Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i leihau defnyddio ceir a hyrwyddo mathau mwy gwyrdd o deithio, tra hefyd yn cefnogi'r economi leol a sicrhau mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn hapus iawn gyda llwyddiant y peilot fflecsi yng Nghasnewydd ac rydym yn falch iawn o allu ehangu'r gwasanaeth gyda naw bws newydd sbon."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters: “Rwy’n hapus iawn y bydd y gwasanaeth bws fflecsi nawr yn cael ei gyflwyno ledled Casnewydd yn dilyn llwyddiant y gwasanaeth yn Tŷ Du a St Julian's. Mae fflecsi yn gynllun newydd cyffrous sy'n edrych ar y ffordd wahanol rydyn ni'n gweithredu ein system drafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n rhoi mwy o reolaeth i deithwyr o ran sut maen nhw'n symud o gwmpas trwy roi mynediad iddyn nhw i deithio dibynadwy a hyblyg, a helpu i greu Cymru mwy gwyrdd. ”
Dywedodd Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Casnewydd: “Mae Trafnidiaeth Casnewydd unwaith eto ar flaen y gad o ran mentrau trafnidiaeth gyhoeddus yn y DU fel gweithredwr rhwydwaith ledled y ddinas o wasanaethau bysiau trefol ar alw. Bydd y gwasanaeth estynedig fflecsi yn gyflenwad defnyddiol i'n rhwydwaith bysiau wedi'u trefnu. Fel y prif weithredwr bysiau yng Nghasnewydd, rydym yn hyderus y bydd y rhyngweithio rhwng fflecsi a'r gwasanaethau bysiau arferol sydd ar gael yn darparu gwybodaeth werthfawr sy'n galluogi ein Tîm Gweithrediadau i adolygu'r gwasanaethau bysiau a drefnwyd ar gyfer y bobl sy'n byw, gweithio, astudio, siopa a chymdeithasu yng Nghasnewydd, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu rhwydwaith cynhwysfawr sy'n seiliedig ar alw gan gwsmeriaid ar gyfer y dyfodol”.
Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac aelod cabinet dros wasanaethau dinas: “Rydym yn credu fod hwn yn gyfle gwych i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas a chynnig gwasanaethau bysiau gwell i’n preswylwyr gan roi mwy o ddewis a mwy o hyblygrwydd iddyn nhw gyda'u teithiau.
“Un o agweddau cadarnhaol niferus fflecsi yw y bydd yn ategu at y gwasanaethau a drefnwyd gan Bws Casnewydd, nid eu disodli. Rwy'n siŵr y bydd yn boblogaidd gyda theithwyr ac y bydd yn bodoli y tu hwnt i'r peilot. Mae Casnewydd yn arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n addas ar gyfer heddiw a'r dyfodol.”
I wybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau, map o'r parth fflecsi a sut i archebu, ewch i www.fflecsi.cymru/.