Skip to main content

Rugby and football fans should plan ahead for weekend travel

02 Gor 2021

Mae cefnogwyr rygbi sy’n dychwelyd i Stadiwm Principality am y tro cyntaf mewn 16 mis yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau’n ofalus, ac mae’n annhebygol y bydd modd cadw pellter cymdeithasol ar lawer o wasanaethau trên prysur.

Bydd hyd at 8,200 o gefnogwyr yn bresennol pan fydd Cymru’n wynebu Canada yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, y tro cyntaf i gefnogwyr fod yn y stadiwm cenedlaethol ar gyfer gêm ryngwladol ers diwedd mis Chwefror 2020.

Gyda Llewod Prydain ac Iwerddon hefyd yn chwarae ddydd Sadwrn (y gêm honno'n dechrau am 5pm) a gêm tîm pêl-droed Lloegr yn rownd yr wyth olaf Ewro 2020 yn erbyn yr Wcrain yn dechrau am 8pm, disgwylir i rwydwaith Cymru a’r Gororau fod yn brysur iawn, gyda chefnogwyr chwaraeon yn mynd i dafarndai a lleoliadau eraill i wylio’r gemau.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: : “Er bod y capasiti y tu mewn i Stadiwm Principality yn cael ei leihau, rydyn ni’n dal yn disgwyl i ddegau o filoedd o bobl deithio ar rwydwaith Cymru a’r Gororau i wylio gemau dydd Sadwrn, naill ai yn y stadiwm neu mewn tafarndai ledled y wlad.

“Bob dydd, rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cymaint o le â phosibl ar ein trenau, gan sicrhau bod pob cerbyd sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio. Bydd gennym hefyd drafnidiaeth ychwanegol ar y ffyrdd i ddarparu dewisiadau teithio i gwsmeriaid sy’n dod i mewn i Gaerdydd ar gyfer y gêm ac i fynd adref yn ddiweddarach.

“Yn ogystal â hyn, mae’n hanfodol bod pobl yn cymryd cyfrifoldeb am eu taith, yn cynllunio ymlaen llaw, yn defnyddio ein hadnodd Gwiriwr Capasiti i weld pa wasanaethau sy’n debygol o fod yn brysur, ac yn dilyn ein cyngor teithio’n fwy diogel bob amser. Mae hyn yn cynnwys gwisgo gorchudd wyneb (oni bai eich bod chi wedi eich eithrio), parchu ein cydweithwyr a theithwyr eraill, a glanhau eich dwylo’n rheolaidd.”

Mae teithwyr sy’n teithio i Gaerdydd o’r dwyrain neu’r gorllewin yn cael eu hannog i ddefnyddio’r gwasanaethau rhyng-ddinas sydd â mwy o le (Rheilffordd y Great Western) o Abertawe neu Gasnewydd.

Bydd systemau ciwio ar waith yng Nghanol Caerdydd hefyd a bydd timau cymorth ychwanegol mewn gorsafoedd allweddol i helpu i reoli diogelwch teithwyr.

Gallwch ddefnyddio Gwiriwr Capasiti Trafnidiaeth Cymru drwy fynd i’w gwefan yma.

Llwytho i Lawr