English icon English

Cynlluniau i gyflwyno grwpiau cyswllt mewn prifysgolion a cholegau

Plans to introduce contact groups in universities and colleges

Heddiw, mae Jeremy Miles wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno grwpiau cyswllt ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach.

Yn dilyn ei ddatganiad yng nghyfarfod briffio’r wasg ar y coronafeirws ddydd Llun - lle nododd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y cynlluniau ar gyfer lleoliadau addysg yn yr hydref -  heddiw, rhoddodd fwy o wybodaeth am y cynlluniau i leihau’r effaith ar addysg a hyfforddiant ôl-16. 

Byddai’r mesurau, a fydd yn rhan o’r fframwaith newydd, yn cael eu rhoi ar waith mewn lleoliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach, addysg seiliedig ar waith a dysgu cymunedol.

Nod y cynlluniau yw sicrhau bod grwpiau cyswllt addysg oedolion yn gweithredu’n unol â'r cyfyngiadau cymdeithasol mwyaf cyfredol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn ôl y cyfyngiadau presennol sydd ar waith, byddai grwpiau cyswllt yn cael eu modelu ar fwy nag un grŵp o hyd at 6, neu grwpiau unigol o hyd at 30, yn dibynnu ar gapasiti'r lleoliad neu'r ystafell. Bydd angen i'r sefydliad addysg hefyd gynnal asesiadau risg a bodloni'r gofyniad i gymryd camau rhesymol i atal trosglwyddo'r feirws.

Hefyd, rhoddodd y Gweinidog wybod am gynlluniau i symud i ffwrdd o'r model i sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol o 2 fetr ar gyfer myfyrwyr prifysgol, dysgwyr sy'n oedolion a dysgwyr rhan-amser, yn yr amgylchedd dysgu. Nod y cynlluniau yw caniatáu mwy o ddysgu wyneb-yn-wyneb, ar yr amod bod y risg yn isel neu’n gymedrol.

Os bydd y cyfyngiadau yn y gymdeithas ehangach yn parhau i gael eu llacio, byddai'r un cyfyngiadau'n berthnasol i addysg oedolion mewn prifysgolion, colegau a dysgu cymunedol.

Dywedodd Jeremy Miles:

"Ein hegwyddor arweiniol yw symud tuag at alluogi addysg i weithredu mewn ffordd sydd mor 'normal' â phosibl yn yr hydref. Felly rydym yn cynllunio ar sail y ffaith y bydd addysg oedolion yn gweithredu'n unol â'r hyn y gall oedolion ei wneud yn y gymdeithas ehangach.

"Bydd grwpiau cyswllt ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion yn golygu y gallwn gael mwy o ddysgu wyneb-yn-wyneb, a rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i leddfu’r effeithiau niweidiol ar addysg. Efallai y bydd angen gofyn i gysylltiadau agos hunanynysu o hyd, os bydd swyddogion olrhain cysylltiadau Profi Olrhain Diogelu yn barnu y dylent. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn ystod yr wythnosau nesaf i ddatblygu'r fframwaith a darparu canllawiau manwl pellach ar sut y bydd y grwpiau hyn yn gweithio.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i'n holl staff yn y sector addysg sydd wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi dysgwyr drwy gydol y pandemig, ac sydd wedi helpu i sicrhau bod eu lleoliadau mor ddiogel â phosibl.

"Mae'n rhaid i ni i gyd gofio, er ein bod yn gallu gwneud mwy o bethau, ei bod yn bwysig inni barhau i gadw Cymru'n ddiogel, drwy hunanynysu pan fyddwn yn sâl, cael profion rheolaidd, cefnogi cynllun Profi Olrhain Diogelu, gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, cofio golchi ein dwylo a sicrhau awyru da."