English icon English

Y Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt newydd yn dechrau ar ei waith

New Wildlife and Rural Crime Coordinator gets to work

Bydd Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt cyntaf Cymru yn amlinellu ei flaenoriaethau heddiw yn dilyn cael ei benodi i’r swydd. Dyma’r swydd gyntaf o’i math yn y DU.

Crëwyd y swydd gan Lywodraeth Cymru, gyda heddluoedd Cymru, i atgyfnerthu'r ymateb i Droseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ledled y wlad.

Mae Rob Taylor, a oedd yn gyfrifol am sefydlu Tîm Troseddau Cefn Gwlad presennol Heddlu Gogledd Cymru, yn dod â thoreth o brofiad i'r swydd, yn enwedig o ran cyfraith bywyd gwyllt ac ymchwiliadau, gan gynnwys yr ymosodiad llif gadwyn erchyll ar y platfform nythu gweilch yn Llyn Brenig ym mis Mai.

Yn ystod ymweliad â Phrosiect Gweilch Dyfi ger Machynlleth heddiw, bydd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, yn cwrdd â Rob Taylor i drafod ei flaenoriaethau a'i uchelgeisiau ar gyfer y 12 mis nesaf.

Mae canolfan ymwelwyr newydd y prosiect, a agorodd ym mis Mai, wedi cael cymorth cyllid gwerth £250,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r swydd newydd yn bwysig o ran cydgysylltu bywyd gwyllt a gwaith gwledig yr heddlu ac asiantaethau partner allweddol, i leihau troseddau a'u heffaith ar gymunedau gwledig ledled Cymru.

Troseddau yn erbyn da byw, ymosod ar adar ysglyfaethus, tipio anghyfreithlon yn ogystal â dwyn peiriannau fferm, cerbydau a thanwydd yw rhai o'r prif feysydd y bydd y cydgysylltydd yn mynd i'r afael â nhw.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i roi pwerau newydd i'r heddlu i warchod da byw yn well rhag cŵn peryglus a chŵn nad ydynt yn cael eu rheoli drwy'r Bil Anifeiliaid a Gedwir. Mae Rob Taylor wedi bod yn ganolog wrth ddarparu cyngor ar y mater hwn.

Bydd y cydgysylltydd hefyd yn arwain ar Strategaeth Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt gyntaf Cymru ac yn gweithio gyda swyddogion ysgol i helpu plant i ddeall troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn well a sut maent yn effeithio ar gymunedau.

Dywedodd Rob Taylor, Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt: "Mae plismona ein cefn gwlad a diogelu ein bywyd gwyllt yn rhywbeth rwy'n frwd iawn drosto.

"Mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol o ran atal troseddau cefn gwlad, ond mae gennyn ni waith i'w wneud o hyd o ran troseddau fel ymosodiadau ar dda byw a throseddau yn erbyn bywyd gwyllt.

"Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gydag eraill ac at wneud gwahaniaeth cadarnhaol yma yng Nghymru."

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: "Mae Timau Troseddau Cefn Gwlad ein heddlu yn gwneud gwaith gwych a bydd rôl y Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan yn hanfodol i adeiladu ar eu gwaith.

"Hoffwn i longyfarch Rob Taylor ar ei benodiad i’r swydd bwysig hon. Bydd ei brofiad a'i arbenigedd yn hanfodol er mwyn gwneud newidiadau sylweddol a sicrhau ein bod yn ymateb i droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn ein cymunedau mewn ffordd gydgysylltiedig, effeithiol ac amlasiantaethol.

"Rwyf hefyd yn falch o gael y cyfle i gwrdd â Rob ym Mhrosiect Gweilch Dyfu ger Machynlleth. Mae'r gweilch bellach wedi ailymsefydlu'n gadarn wrth i’r rheini sy’n dod i Gymru yn yr haf fridio, ac mae niferoedd yn cynyddu. Fodd bynnag, maent yn dal i fod yn destun ymosodiadau, fel y gwelwyd pan gafodd nyth gweilch artiffisial ei chwympo yn Llyn Brenig.

"Rwy'n dymuno'n dda i Rob yn ei swydd newydd ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda fe dros y misoedd nesaf."