English icon English

Cynllun i ddarparu gofal iechyd brys a gofal mewn argyfwng yn y lle iawn, y tro cyntaf yng Nghymru

Plan to deliver urgent and emergency health care in the right place, first time in Wales

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi nodi cynlluniau i drawsnewid y broses o ddarparu gofal brys a gofal mewn argyfwng yng Nghymru, yn ystod cyfnod  sy’n eithriadol o heriol i wasanaethau.

Mae’r cynlluniau yn seiliedig ar chwe nod ar gyfer y system iechyd a gofal, ac mae £25m y flwyddyn o gyllid rheolaidd ar gael i’w cefnogi. Diben y cynlluniau yw helpu pobl i gael y gofal iawn, yn y lle iawn, cyn gynted ag sy’n bosibl. Bydd hyn yn helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau meddygon teulu, ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys.

Dywedodd y Gweinidog: "Mae’r galw ar wasanaethau meddygon teulu, ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru yn dal i gynyddu yn uwch na’r hyn yr oedd cyn y pandemig. Mae’r staff o dan bwysau gwirioneddol.

Fel y nodwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydyn ni am sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y gofal o ansawdd uchel sydd ei angen arnyn nhw yn y lle iawn, y tro cyntaf.

Rydyn ni wedi llunio 'chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng' i’n Byrddau Iechyd a'u partneriaid – nodau iddyn nhw weithio tuag at eu cyflawni, a hynny mewn ffordd gyson a dibynadwy. Bydd cyflawni pob un o'r chwe nod yn sicrhau gwell canlyniadau, profiadau a gwerth i staff a chleifion.

Rydyn ni’n darparu £25m y flwyddyn i ddatblygu a sefydlu ffyrdd newydd o weithio i greu system sy’n fwy integredig a lleihau’r pwysau sydd ar wasanaethau.

Bydd disgwyl hefyd i sefydliadau GIG Cymru a’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol roi mwy o bwyslais ar gynorthwyo pobl i fyw'n annibynnol a chefnogi llesiant, gan olygu na fydd angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng arnyn nhw felly.

Rydyn ni am i bawb allu cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw’n gyflym ac yn hawdd. Yn aml, mae pobl yn teimlo nad oes dewis ganddyn nhw ond mynd at feddyg teulu, adran damweiniau ac achosion brys, neu ffonio 999 i gael cyngor neu driniaeth. Ond o dan ein cynlluniau newydd ni, gallai pobl sydd ag anghenion gofal brys gael eu trin mewn mannau eraill gan y gwahanol weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn GIG Cymru.

Er enghraifft, rhoddwyd arian i Fyrddau Iechyd i ddatblygu Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys newydd lle y bydd modd asesu neu drin pobl sydd ag anghenion gofal brys, a hynny heb iddyn nhw heb orfod gwneud apwyntiad ymlaen llaw â’u meddyg teulu neu fynd i adran damweiniau ac achosion brys brysur.

Rydyn ni hefyd yn buddsoddi yn y model cenedlaethol 111 i gyfeirio pobl i’r lle iawn i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, y tro cyntaf. Gallai hyn fod yn hunanofal, cyngor mewn fferyllfa, apwyntiad mewn uned mân anafiadau neu fynediad uniongyrchol at gyngor arbenigol, gan olygu felly na fydd angen mwyach i unigolion fynd i adran damweiniau ac achosion brys.

Bydd cyllid ychwanegol hefyd ar gael ar gyfer ‘gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod’ i gefnogi pobl sydd angen profion diagnostig a thriniaeth wyneb yn wyneb, ond sy'n gallu mynd adref yr un diwrnod, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny."

Yn ogystal â'r gronfa newydd gwerth £25m, bydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol - sy'n dwyn ynghyd awdurdodau lleol, byrddau iechyd, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r trydydd sector i wella iechyd a gofal pobl - yn cael £6m eleni ar gyfer cynlluniau i helpu  pobl i fynd adref o'r ysbyty pan fyddant yn barod yn glinigol. O ganlyniad, ni fydd angen i bobl aros am gyfnod sy’n ddiangen o hir ac, yn gwbl hanfodol, bydd mwy o welyau yn dod yn rhydd. Dylai'r dull 'gartref yn gyntaf' hwn hefyd leihau'r risg y bydd angen i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty unwaith yn rhagor.

Dywedodd hefyd: "Byddwn yn cyhoeddi'r llawlyfr chwe nod yn ystod tymor newydd y Senedd. Bydd y llawlyfr hefyd yn disgrifio'n fanwl y safonau y dylai cleifion eu disgwyl os ydyn nhw’n dymuno cael gofal brys neu ofal mewn argyfwng, neu pan fydd angen gofal o’r fath arnyn nhw.

O ystyried bod haf anodd iawn yn ein hwynebu, a bod gaeaf sydd am fod yn heriol ar y gorwel, mae'n hanfodol ein bod ni’n gwneud y newidiadau hyn yn gyflym ond ein bod ni hefyd yn drylwyr wrth weithredu.  

Rydw i’n disgwyl i bob Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth y GIG a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wneud cynnydd cyflym ar y chwe nod dros gyfnod yr haf, er mwyn dechrau gwneud newidiadau go iawn ar unwaith, a chan gadw mewn cof y gaeaf anodd sydd o’n blaenau ni."

Mae’r 'chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng' fel a ganlyn:

  1. Cyd-drefnu, cefnogi a chynllunio ar gyfer grwpiau sy’n wynebu risg
  2. Cyfeirio at y lle iawn, y tro cyntaf
  3. Mynediad at opsiynau eraill yn hytrach na derbyn i'r ysbyty, sy’n ddiogel o safbwynt clinigol
  4. Ymateb brys mewn argyfwng iechyd corfforol neu iechyd meddwl
  5. Y gofal gorau yn yr ysbyty ar ôl derbyn i’r ysbyty
  6. Agwedd y cartref yn gyntaf, a lleihau'r risg o aildderbyn i’r ysbyty

Yr wythnos ddiwethaf, lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch ‘Helpwch ni, i’ch helpu chi’ i atgoffa pobl am y ffyrdd eraill sydd ar gael iddynt o gael gofal yn y lle iawn ar gyfer eu hanghenion.

Dywedodd y Gweinidog: "Wrth inni symud allan o gyfyngiadau’r pandemig, rydyn ni’n gweld bod y galw ar feddygon teulu, ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys yn cynyddu'n gyflym. Mae cyfnod yr haf bob amser yn adeg brysur i’r gwasanaethau hyn, â’r galw yn uchel. Ond gyda’r tymheredd yn uchel, a mwy o dwristiaid yn ymweld, heb sôn am heriau'r pandemig, mae hwn wedi dod yn gyfnod eithriadol o anodd i'r GIG.

Byddwn yn annog pawb i'n ‘Helpu ni, i’ch helpu chi’ drwy ymddwyn yn gyfrifol ac ystyried opsiynau eraill wrth geisio gofal er mwyn cael y driniaeth iawn, y tro cyntaf."

Mae cyngor meddygol pan nad yw’n argyfwng ar gael drwy wefan a llinell gymorth 111. Gall fferyllwyr roi cyngor ar amrywiaeth o anhwylderau a gall optegwyr helpu gyda phroblemau sy'n gysylltiedig â'r llygaid.