- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
19 Ion 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ehangu’r gwasanaeth fflecsi yn Sir Benfro, gan alluogi mwy o gymunedau ledled y sir i elwa ar drafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Benfro, mae’r parth fflecsi newydd yn disodli’r gwasanaeth bws 315 presennol a bydd yn cysylltu pentrefi a phentrefannau ym Mhenrhyn Dale ag Aberdaugleddau a Hwlffordd – gan integreiddio â llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ehangach.
Bydd yr ehangu yn dechrau ddydd Llun 30 Ionawr a bydd yn cysylltu â’r gwasanaeth fflecsi hynod lwyddiannus yng ngogledd-orllewin Sir Benfro, sydd wedi gweld cynnydd yn y galw gan deithwyr ers ei sefydlu fis Medi 2020.
Gyda’i gilydd, bydd y ddau barth yn gorchuddio rhan fawr o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan gynnig dewis trafnidiaeth hygyrch, ecogyfeillgar i ymwelwyr â’r ardal i allu cyrraedd rhai o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y sir, gan gynnwys Llwybr Arfordir Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cefnogi gweithrediad gwasanaeth fflecsi Bwcabus, sy’n cysylltu pentrefi gwledig canol Sir Benfro â Hwlffordd, Abergwaun a’i borthladd fferi, yn ogystal â pharthau gweithredu sy’n gwasanaethu rhannau o Geredigion a Sir Gaerfyrddin.
Mae fflecsi Sir Benfro yn wasanaeth bws sy'n ymateb i'r galw nad oes ganddo lwybr ac amserlen sefydlog ond parth gweithredu sy'n galluogi i deithwyr gael eu codi a'u gollwng unrhyw le o fewn y parth fflecsi hwnnw.
Yn hytrach na bod teithwyr yn aros am y bws ger safle bws, gallant archebu taith ymlaen llaw gan ddefnyddio ap fflecsi, neu ffonio 0300 234 0300. Rhoddir gwybod i deithwyr ble i ddal y bws a phryd y bydd yn cyrraedd - bydd y man codi mor agos â phosibl at leoliad y teithiwr.
Dywedodd Andrew Sherrington, Pennaeth Rhwydwaith Bysiau a Datblygu Gwasanaethau: “Mae fflecsi wedi datblygu i fod yn ddewis trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy yng nghefn gwlad Sir Benfro a bydd ei ehangu nawr yn caniatáu i fwy o bobl ledled y sir gael mynediad ato ar gyfer teithiau bob dydd ac i wneud teithiau cysylltiol pwysig hefyd.
“Mae nifer y teithwyr yn parhau i dyfu ac ym mis Awst a mis Medi eleni, roedd y ffigurau fwy na dwbl yr hyn oeddent yr un pryd yn 2021.
“Gwyddom fod fflecsi yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y cymunedau gwledig y mae’n eu gwasanaethu ar draws Sir Benfro, ac mae’n rhan hanfodol o ymrwymiad TrC i ddarparu sawl math o rwydwaith trafnidiaeth sy’n annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”
Dywedodd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr Cyngor Sir Benfro: “Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn gan y Cyngor Sir er mwyn diogelu gwasanaeth i deithwyr yn y rhan wledig hon o’r sir a sicrhau eu bod yn parhau i gael mynediad i ardaloedd mwy poblog allweddol.
“Mae cynllun fflecsi Sir Benfro wedi bod yn hynod boblogaidd yng ngogledd y sir gyda thwristiaid a phobl leol; gobeithiwn weld y llwyddiant hwn yn parhau pan gyflwynir y parth newydd.”