- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
26 Ion 2023
Heddiw (26 Ionawr), cafodd y cyntaf o fflyd newydd sbon o drenau gwerth £800m Trafnidiaeth Cymru (TrC) ei lansio’n swyddogol gan Lesley Griffiths AS mewn seremoni yng Ngogledd Cymru.
Wedi’u hadeiladu yng Nghymru gan y gwneuthurwr trenau blaenllaw CAF, y rhain, sef 77 o drenau Dosbarth 197 newydd (51 gyda dau gerbyd a 26 gyda thri cerbyd), fydd asgwrn cefn gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar hyd a lled rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn y blynyddoedd i ddod.
Gan gynnig seddi lledr, systemau aerdymheru modern, drysau lletach a sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid, bydd y trenau newydd sbon yn chwarae rhan allweddol yng nghynlluniau TrC i drawsnewid y profiad a gaiff cwsmeriaid ar ei wasanaethau.
Dechreuodd y trenau newydd ar eu gwaith trwy wasanaethu teithwyr ar reilffordd Dyffryn Conwy ddiwedd 2022 a heddiw, fe’u dadorchuddiwyd mewn seremoni yng ngorsaf reilffordd Llandudno.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth: “Mae hyn yn newyddion gwych. Wedi’u hariannu gan ein buddsoddiad o £800m mewn fflyd newydd o drenau, mae’r trenau dosbarth 197 yn chwarae rhan bwysig yn ein cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.
“Ar ôl teithio ar un o'r trenau Dosbarth 197 newydd sbon hyn, gallaf dystio eu bod yn gysurus, yn gyflym ac mae digon o le arnynt. Byddan nhw'n gwasanaethau teithwyr o Gymru ond maen nhw hefyd wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru.”
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru: “Pleser o'r mwyaf heddiw oedd lansio’n swyddogol trenau newydd trawiadol Trafnidiaeth Cymru yma yn Llandudno.
“Mae’r fflyd hon a gafodd ei hadeiladu yng Nghymru yn arwydd o welliant pwysig i wasanaethau rheilffordd ac rwy’n siŵr y bydd teithwyr yn mwynhau teithio ar hyd llinellau Gogledd Cymru ar y trenau Dosbarth 197 hyn.”
Bydd y trenau newydd, sydd â mwy o le arnynt ac sy’n gyfforddus iawn, yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i redeg gwasanaethau cyflymach ac amlach i gyrchfannau fel Caergybi, Abergwaun a Lerpwl.
Mae'r 77 o drenau sy'n cael eu hadeiladu gan CAF hefyd â phwyntiau gwefru electronig arnynt ynghyd â nodweddion anabledd ar gyfer y rheini sydd â symudedd cyfyngedig.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae lansiad swyddogol trenau Dosbarth 197 yn ddiwrnod hollbwysig yn hanes Trafnidiaeth Cymru a diwydiant rheilffyrdd Cymru, gan ddadorchuddio’r trenau newydd sbon cyntaf yng Nghymru ers cenhedlaeth.
“Mae'r gwaith o adeiladu'r trenau newydd hyn wedi bod yn mynd rhagddo ers pedair mlynedd. Rydym yn hynod o falch ac yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu teithwyr arnynt am y tro cyntaf. Bydd y trenau yn rhan bwysig o drawsnewid rhwydwaith Cymru a’r Gororau ac yn ein galluogi i redeg mwy o wasanaethau a chludo mwy o gwsmeriaid yn gyfforddus.
“Mae hefyd yn bwysig cydnabod y cafodd y trenau hyn eu hadeiladu yng Nghymru, yn ffatri CAF yng Nghasnewydd. Fe greodd y gwaith o'u hadeiladu swyddi yn ogystal â chefnogi’r economi leol.”
Dywedodd Richard Garner, Cyfarwyddwr CAF UK: “Mae hwn yn ddiwrnod cofiadwy i CAF. Rydym yn hynod falch ein bod wedi chwarae rhan allweddol yn cyflawni ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i drawsnewid teithiau trên teithwyr, gan sicrhau taith o ansawdd uchel, sy'n ddibynadwy a chyfforddus.
Caiff ein trenau’n eu hadeiladu yng Nghymru i wasanaethu cymunedau Cymru. Mae hyn yn cefnogi swyddi medrus iawn a chreu swyddi lleol tra’n canolbwyntio ar faterion cynaliadwyedd a mynd i’r afael ag anghenion economi Cymru ar yr un pryd.”
Mae'r trenau Dosbarth 197 yn cyd-fynd â’r 71 o drenau a thramiau newydd sbon sy’n cael eu hadeiladu ar gyfer Metro De Cymru. Yn ddiweddar, fe ddechreuodd y cyntaf ohonynt wasanaethu teithwyr.
Bydd cyfanswm o 148 o drenau newydd sbon yn darparu gwasanaethau cyflymach, amlach a gwyrddach.
Bydd enw’r trên newydd sbon hwn hefyd yn cael ei ddadorchuddio gan enillydd rhanbarthol ein cystadleuaeth Taith Trên Odidog. Roedd y gystadleuaeth yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i blant ysgolion cynradd fod yn rhan o hanes y rheilffyrdd drwy enwi hyd at 148 o’r trenau newydd sbon sy’n cael eu hadeiladu ar gyfer Cymru a’i Gororau.
Gofynnwyd i blant ledled Cymru feddwl am enwau yn seiliedig naill ai ar le go iawn, tirnod, safle hanesyddol neu ffigwr chwedlonol sy'n gysylltiedig â lleoedd yng Nghymru a'i Gororau; ac i gyflwyno rhywbeth creadigol, fel cerdd, stori neu lun, i egluro pam y dewison nhw'r enw hwnnw. Roedd Grace Webb, seren CBeebies, Trystan Ellis-Morris, cyflwynydd poblogaidd ar S4C, Eloise Williams, Bardd Plant Cymru (Children's Laureate for Wales) a Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru ymhlith beirniaid y gystadleuaeth gyffrous hon.
Hefyd, roedd Y Daith Drên Odidog yn gyfle i rannu gyda plant ifanc pwysigrwydd teithio glân, cynaliadwy, yn ogystal â mewnwelediad arbennig i’r ffordd y caiff y trenau hyn eu hadeiladu a hanes ein rheilffordd yng Nghymru.
Nodiadau i olygyddion
Bydd y trenau Dosbarth 197 yn rhedeg ar y llinellau canlynol unwaith byddant mewn gwasanaeth:
- Arfordir Gogledd Cymru (Caergybi-Manceinion/Birmingham)
- Caerdydd-Caergybi
- Lein Dyffryn Conwy (Llandudno-Blaenau Ffestiniog)
- Lein y Gororau (Wrecsam-Bidston)
— Caer-Lerpwl
- Lein y Gororau (Caerdydd-Manceinion/Lerpwl)
- Lein y Cambrian (Birmingham-Aberystwyth/Pwllheli)
- Lein Glynebwy (Glyn Ebwy-Caerdydd/Casnewydd)
— Maesteg-Cheltenham
— Manceinion-Aberdaugleddau
— Caerdydd-Abergwaun
— Abertawe-Doc Penfro