- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
27 Ion 2023
Yn dilyn pedair blynedd o waith caled ar draws y diwydiant rheilffyrdd, mae trenau newydd sbon cyntaf Trafnidiaeth Cymru mewn gwasanaeth ar rwydwaith Cymru a’r Gororau.
Mae trenau Class 197 wedi cael eu hadeiladu i TrC gan y gwneuthurwr trenau CAF, fel rhan o fuddsoddiad gwerth £800 miliwn i gyflwyno trenau newydd sbon i wasanaethau ar draws y rhwydwaith.
Cafodd yr archeb ar gyfer y 77 o drenau Class 197 – 51 uned dau gerbyd a 26 uned tri cherbyd – ei chadarnhau’n swyddogol yn 2018, pan gyhoeddwyd manylion ein cynlluniau i drawsnewid gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau am y tro cyntaf. Ers hynny, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda CAF a phartneriaid eraill yn y diwydiant i fireinio dyluniad fydd yn diwallu gofynion ein gwasanaethau.
Dylunio trenau newydd
Rhan bwysig o hyn oedd gweithio i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng nifer y seddi a thoiledau hygyrch, cynllun y seddi a mannau i gadw beiciau. Roedd yn rhaid i ni sicrhau hefyd y byddai dyluniad y cynllun yn ein helpu i wella dibynadwyedd a phrydlondeb ein gwasanaethau, gan fod nifer o’r llwybrau y bydd y trenau’n gweithredu arnynt yn brysur gyda nifer fawr o deithwyr a gwasanaethau’n eu defnyddio’n rheolaidd. Buom hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod y dyluniad yn gweddu i’r bobl a fydd yn gweithredu’r trenau bob dydd.
Mae’r gwaith dylunio’n sicrhau bydd y trenau newydd yn rhoi profiad llawer iawn gwell i gwsmeriaid. Bydd sgriniau gwybodaeth yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid am y gwasanaeth, a bydd gan bob sedd bwyntiau gwefru electronig.
Mae hygyrchedd yn flaenoriaeth allweddol. Bydd drysau lletach er mwyn darparu mynediad haws, a bydd mannau penodol i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn ar wahân i’r mannau ar gyfer cadw beiciau a phramiau. Cawsom gefnogaeth i ddatblygu nodweddion hygyrchedd y cynllun gan aelodau o’n Panel Hygyrchedd a Chynhwysiant, sydd wedi rhoi adborth adeiladol drwy gydol y broses ddylunio, a chan gwsmeriaid a rhanddeiliaid sydd wedi ymweld â’r brasfodelau o drenau sydd wedi bod yn cael eu harddangos yn Ffynnon Taf dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae dylunio’r trenau wedi bod yn broses ddwyffordd ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gyfraniad pawb sydd wedi cymryd rhan ac wedi ein helpu ni i wella’r dyluniad drwyddo draw.
Cyflwyno’r trenau i’r gwasanaeth
Ar ôl tair blynedd o waith dylunio, gweithgynhyrchu a chydosod, daeth y trên cyntaf oddi ar y llinell gynhyrchu yn ffatri CAF, Casnewydd, ym mis Mai 2021. Bryd hynny, dechreuwyd hyfforddi criwiau a gwneud gwaith profi dwys i sicrhau bod y trenau’n barod i wasanaethu teithwyr, yn unol â safonau’r diwydiant rheilffyrdd.
Bydd rhagor yn dechrau cael eu cyflwyno’n raddol dros y misoedd nesaf. Bydd hyn yn ein galluogi i’w cyd-redeg ar nifer o’n gwasanaethau prysuraf i ddarparu mwy o gapasiti – rhywbeth sy’n achosi trafferth ar hyn o bryd oherwydd nifer y gwahanol fathau o drenau sydd gennym mewn gwasanaeth. Bydd cael fflyd safonol o drenau y gellir eu defnyddio ar y rhan fwyaf o lwybrau yn rhoi mwy o gadernid i ni ac yn gwneud ein gweithrediadau'n haws.
Gyda pheiriannau modern ac effeithlon sy’n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf, bydd trenau Class 197 yn cynhyrchu llai o allyriadau ac yn defnyddio llai o danwydd o’u cymharu â’n fflyd bresennol o drenau diesel, gan helpu i gyfrannu at ein targed o fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn amharu ar eu perfformiad: bydd y trenau 197 yn galluogi teithiau cyflymach ar ein llwybrau pellter hir, a bydd ein hamserlenni’n cael eu haddasu i adlewyrchu hyn unwaith y bydd rhagor o drenau’n ymuno â’r gwasanaeth.
Pryd fydda i’n gweld y trenau Class 197 ar fy rheilffordd?
Bydd trenau Class 197 yn ymddangos yn y pen draw ar y rhan fwyaf o’r llwybrau ar rwydwaith Cymru a’r Gororau, ond bydd hon yn broses raddol a fydd yn cymryd misoedd. Gan ddechrau gyda Rheilffordd Dyffryn Conwy rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog, byddant yn cael eu cyflwyno ar lwybrau o’u depo yng Nghaer i ddechrau. Bydd hyn yn cynnwys y gwasanaethau rhwng Caer a Lerpwl Lime Street, rhwng Wrecsam a Bidston, ac ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru i Gaergybi.
Bydd y ffocws yn newid yn 2023 wrth i ni hyfforddi ein criwiau yn Ne Cymru cyn i’r trenau gael eu cyflwyno ar ragor o lwybrau. Bydd y hyn yn cynnwys y gwasanaethau pellter hir rhwng Caergybi a Chaerdydd Canolog, a gwasanaethau i Fanceinion – lle bydd trenau Mark 4 Intercity hefyd yn rhedeg – yn ogystal â gwasanaethau yng Ngorllewin Cymru i Aberdaugleddau, Harbwr Abergwaun a Doc Penfro. Byddant hefyd yn gyfrifol am wasanaethau Metro De Cymru i Lynebwy, Maesteg a Cheltenham, gan ddisodli’r trenau Class 170 dros dro cyn i'r trenau Metro Class 231 gael eu cyflwyno.
Rheilffordd y Cambrian fydd y llwybr olaf i dderbyn trenau Class 197. Mae hyn oherwydd system signalau a rheoli ETCS unigryw’r rheilffordd, sydd wedi arwain at y gwaith o orfod datblygu swp o drenau fel bod ganddynt y cyfarpar arbenigol priodol. Bydd y 21 trên hyn wedi’u lleoli yn nepo Machynlleth a byddant wedi’u neilltuo i wasanaethau rhwng Birmingham, Aberystwyth a Phwllheli. Oherwydd natur benodol y systemau, mae angen profi’r trenau hyn ymhellach cyn iddynt allu ymuno â’r gwasanaeth – mae’r gwaith o brofi y trên cyntaf eisoes yn mynd rhagddo. Bydd ein fflyd Class 158, sy’n rhedeg y gwasanaethau ar Reilffordd y Cambrian ar hyn o bryd, yn parhau i aros mewn gwasanaeth nes bydd y trenau ETCS Class 197 yn cael eu cyflwyno.
Ble arall fydda i'n gweld trenau newydd?
Mae fflyd ar wahân o 71 o drenau newydd sbon yn cael ei datblygu ar gyfer Metro De Cymru mewn partneriaeth â’r gwneuthurwr trenau, Stadler. Mae’r gwaith o brofi’r trenau Metro Class 231 cyntaf, ynghyd â’r criwiau trenau, yn mynd rhagddo ers tro, ac rydyn ni’n disgwyl iddynt ymuno â’r gwasanaeth ar ddechrau 2023. Yn debyg i drenau Class 197, bydd y trenau hyn hefyd yn darparu profiad gwell o lawer i gwsmeriaid, gan gynnwys mwy o gapasiti a gwell hygyrchedd.
Dilynir y rhain gan drenau tram Class 398, sy’n cael eu datblygu ar gyfer llwybrau Llinellau Craidd y Cymoedd rhwng Caerdydd a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful. Bydd y trenau trydan hyn yn cael eu pweru gan fatris a’r gwifrau uwchben sy’n cael eu gosod ar hyn o bryd fel rhan o waith trawsnewid y Metro.
Yn yr un modd, bydd trenau tri-modd Class 756 sy’n cael eu datblygu ar gyfer gwasanaethau i Rymni, Coryton a Bro Morgannwg yn cael eu pweru gan fatris, gwifrau uwchben, ac injans diesel ar rannau heb eu trydaneiddio i’r de o Gaerdydd. Bydd y ddwy fflyd o drenau Metro trydan yn cael eu cyflwyno ar ôl i’r gwaith trawsnewid gael ei gwblhau.
Rydyn ni hefyd yn cyflwyno trenau hybrid batris-diesel Class 230 i’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston. Mae’r trenau Metro newydd hyn, a fydd yn darparu’r un cyfleusterau â’n trenau newydd sbon, yn gam cynnar yn y gwaith o ddatblygu Metro Gogledd Cymru, a bwriedir iddynt ddechrau ymuno â’r gwasanaeth yn 2023.
Mewn erthygl blog flaenorol aethom ati i ateb rhai o’ch cwestiynau cyffredin am ein trenau newydd a beth rydyn ni’n ei wneud i gynyddu capasiti. Mae’r erthygl ar gael i’w darllen yma.
Beth fydd yn digwydd i’r hen drenau?
Rydyn ni eisoes wedi ffarwelio â sawl math o drên, gan gynnwys trenau Pacers, gyda’r olaf yn cael ei dynnu oddi ar rheilffordd de Cymru ym mis Mai 2021. Cafodd trenau Mark 3 Intercity, a oedd yn cael eu defnyddio ar wasanaethau “Gerallt Gymro” rhwng Caerdydd a Chaergybi, hefyd eu tynnu oddi ar y rheilffyrdd nôl yn 2020, a chawsant eu disodli gan ein trenau Mark 4 Intercity yn 2021.
Y trenau Class 170, sy’n cynnal gwasanaethau i Lynebwy, Maesteg a Cheltenham ar hyn o bryd, fydd y trenau nesaf y byddwn yn ffarwelio â nhw, gyda’r trên olaf yn gadael am Reilffordd Dwyrain Canolbarth Lloegr yn y gwanwyn. Byddwn hefyd yn tynnu ein trenau Class 769 o Reilffordd Rhymni ar ôl i’r trenau Class 231 ymuno â’r gwasanaeth.
Byddwn yn cael gwared â mwy o drenau Class 175, sy’n cael eu defnyddio ar ein gwasanaethau pellter hir, wrth i fwy o drenau Class 197 gyrraedd, a bydd y trenau Class 158 yn diflannu o’n rhwydwaith ar ôl i’r trenau ETCS Class 197 gael eu cyflwyno ar Reilffordd y Cambrian. Y fflyd olaf fyddwn i’n cael gwared arni fydd y Class 150 Sprinters. Bydd y fflyd yn ein gadael ar ôl i’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd gael ei gwblhau, lle bydd trenau Class 398 a 756 yn cymryd ei lle i wasanaethu Metro De Cymru.
Nid yw’r rhan fwyaf o’n fflyd bresennol o drenau yn eiddo i Trafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol. Maen nhw’n eiddo’n bennaf i Gwmnïau Cerbydau Trên, sy’n rheoli cyrchfannau eu trenau yn y dyfodol. Rydyn ni’n prydlesu’r trenau gan y cwmnïau hyn. Ar ôl i’r prydlesi ddod i ben, bydd y trenau’n dychwelyd at eu perchnogion, a fydd yn penderfynu ar eu cyrchfan nesaf.