English icon English

Cymru yn amlinellu cynllun uchelgeisiol â “gobaith yn ganolog iddo” i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+

Wales sets out ambitious plan “with hope at its heart” to reach goal of becoming the most LGBTQ+ friendly nation in Europe

“Rydyn ni am sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant i bobl LHDTC+, er mwyn inni fel cymuned deimlo’n ddiogel i fod yn ni ein hunain, yn rhydd rhag ofn, gwahaniaethu a chasineb.”

Dyna eiriau’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, a aeth ati heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 7) – ochr yn ochr ag Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price – i amlinellu sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau, rhagolygon a sefyllfa pobl LHDTC+.

Wrth lansio Cynllun Gweithredu LHDTC+, sy’n tanlinellu bwriad Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i bobl LHDTC+, dywedodd y Dirprwy Weinidog mai dyma’r tro cyntaf i ymrwymiadau a oedd eisoes wedi’u gwneud gael eu tynnu ynghyd i osod amcanion mentrus ond realistig tuag at greu cymdeithas lle mae cynnwys a dathlu pobl LHDTC+ yn elfen gwbl ganolog.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Rydyn ni wedi dod ffordd bell yn ystod y degawdau diwethaf, ond allwn ni ddim llaesu dwylo. Allwn ni fyth gymryd cynnydd yn ganiataol, a ddylen ni fyth wneud hynny. Mae cymunedau LHDTC+ yn parhau i fod dan ymosodiad, ac mae’r hawliau yr ydyn ni wedi brwydro mor galed drostyn nhw mewn perygl o gael eu herydu o amgylch y byd, gan gynnwys yma yn y DU.

“Dw i’n ymfalchïo yn y ffaith bod hawliau LHDTC+ yma yng Nghymru yn rhan annatod o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, ac mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn un o ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

“Mae’r cynllun yn uchelgeisiol, ond mae gobaith yn ganolog iddo. Rydyn ni’n gwbl ymroddedig i sicrhau newid ystyrlon i gymunedau LHDTC+, gan greu cymdeithas a gwlad lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu’n ddiffuant, yn agored, ac yn rhydd fel nhw eu hunain.”

Mae’r Cynllun Gweithredu yn cynnwys ystod eang o gamau sy’n gysylltiedig â pholisïau penodol, o wella diogelwch, addysg, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a mwy.

Yn benodol, mae’n dangos ymrwymiad clir i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl draws ac anneuaidd.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS: 

“Mae’r cynllun hwn yn dangos sut rydyn ni’n cydweithio i greu Cymru sy’n fwy cyfiawn, teg a goddefgar. Pwrpas gwleidyddiaeth yw gwneud gwahaniaeth a gwella bywydau’r bobl rydych chi’n eu gwasanaethu. 

“Mae hyn yn golygu sicrhau newid i bawb mewn cymdeithas, ac mae’n destun balchder i ni fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ein cyd-uchelgais i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. Mae’r cynllun hwn yn arddangos ein hymrwymiad clir i gyflawni hynny.

“Mae’r ffaith bod y cynllun hwn wedi cael ei gyd-ddatblygu gan bleidiau y mae eu Haelodau yn ffurfio dwy ran o dair o’n senedd genedlaethol yn sail gref ar gyfer gwireddu ymrwymiadau’r Cynllun drwy gamau ymarferol ar lawr gwlad yn ein cymunedau.

“Mae mynd i’r afael ag anghyfiawnder ar bob ffurf yn hanfodol, a chyda’n gilydd fe allwn ni greu cymdeithas decach, gan hyrwyddo hawliau pawb yn y gymuned LHDTC+.”

I nodi cyhoeddi’r Cynllun, ymwelodd y ddau wleidydd – sy’n aelodau agored o’r gymuned LHDTC+ eu hunain – ag arddangosfa Pride & Protest yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, sy’n cynnwys baneri protest a bathodynnau ymgyrch LHDTC+ o gasgliad Amgueddfa Cymru o wrthrychau o ddigwyddiadau Pride ledled Cymru.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae diwylliant a threftadaeth LHDTC+ yng Nghymru wedi cyfrannu at ein gwaddol a’n profiadau fel cenedl – am yn rhy hir mae ein hanes wedi bod yn guddiedig, ac mae angen adrodd y straeon hyn.

“Mae’r arfer o roi sylw i straeon LHDTC+ o’n hanes a’n treftadaeth yn gwella. Mae’r arddangosfa hon yn enghraifft wych, a’r nod yw adeiladu ar hyn.

“Bydd gweithredu’n ymarferol, ar draws meysydd diwylliant, addysg, iechyd ac yn ehangach, yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni ein huchelgais i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag ystod eang o gymunedau a chyrff LHDTC+ i helpu i ddatblygu Cynllun Gweithredu LHDTC+, a bydd yn sail i ddatblygu polisi i’r dyfodol ochr yn ochr â’n partneriaid.

Mae Lisa Power wedi gweithredu dros hawliau LHDTC+ ar hyd ei hoes. Hi oedd un o sefydlwyr Stonewall, a chyfrannodd at ddatblygu Cynllun Gweithredu LHDTC+. Dywedodd Lisa:

“Yn fy marn i, mae Cymru yn olau disglair yn y maes hwn.

“Yn aml, wrth i bobl edrych ar faterion yn ymwneud â LHDTC+, y cyfan maen nhw’n ei weld yw’r elfen LHDTC. Dydyn nhw ddim yn sylweddoli ein bod ni’n ddinasyddion fel pawb arall.

“Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn glir ynghylch beth mae’n mynd i’w wneud a sut. Mae’n cydnabod mai un rhan yn unig o hunaniaeth fwy cymhleth, groestoriadol yw bod yn LHDTC+ yn aml, a bod materion o bob math yn effeithio arnon ni yn ystod ein bywyd.

“Drwy’r gwaith rydw i’n ei wneud yn rhyngwladol, dw i’n clywed mwy a mwy o sylwadau gan bobl sy’n cydnabod Cymru fel gwlad sy’n ceisio diogelu ei holl ddinasyddion – ac mae hynny’n ddi-os yn cynnwys dinasyddion LHDTC+.”

Dywedodd Davinia Green, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru:

“Dw i’n croesawu Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru. Mae’n ymrwymiad clir a chadarnhaol, ac yn arbennig o bwysig yn wyneb herio ar hawliau yr ydyn ni wedi brwydro’n galed drostyn nhw. Mae hyn yn rhan bwysig o’r daith i greu cymdeithas sy’n gynhwysol i bobl LHDTC+ yma yng Nghymru, ond nid dyma ddiwedd y daith. Rhaid inni beidio â llaesu dwylo.

“Os yw Cymru i arwain y ffordd yn Ewrop o ran hawliau LHDTC+, bydd mynd i’r afael â throseddau casineb, cefnogi cwricwlwm ACRh cynhwysol, a chael gwared â’r rhwystrau o ran gofal iechyd yn arbennig o bwysig.”

Dywedodd llysgennad sefydliadau sy’n cynnwys Pride Cymru a Chwaraeon LHDTC+ Cymru, y gohebydd a’r cyflwynydd chwaraeon, Beth Fisher:

“Doedd tyfu i fyny fel menyw hoyw yng Nghymru ddim yn hawdd bob amser, a doedd hi ddim yn hawdd bod yn weladwy bob amser. Dyna pam dw i mor ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ hwn – i wneud Cymru yn lle haws i bobl y gymuned honno fyw ynddo, a bod yn nhw eu hunain.

“Dw i’n gobeithio y bydd y Cynllun Gweithredu yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn fwy diogel ac mewn sefyllfa i fynegi eu hunain fel y mynnont.”