- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
03 Chw 2023
Mae’r trên newydd sbon cyntaf a ddadorchuddiwyd gan Trafnidiaeth Cymru wedi’i enwi’n ‘Happy Valley’ yn dilyn cystadleuaeth genedlaethol i bobl ifanc.
I ddathlu’r cyfle unwaith mewn cenhedlaeth o drenau newydd sbon yn dod i Gymru a’r Gororau, cynhaliodd TrC gystadleuaeth wedi’i hanelu at blant ysgol 4-11 oed i enwi’r trenau newydd.
Mae rhaglen 'Taith Trên Odidog' wedi bod ar waith ers dwy flynedd ac yn annog plant i ddod o hyd i enwau yn seiliedig ar le go iawn, tirnod, safle hanesyddol neu ffigwr chwedlonol sy'n gysylltiedig â lleoedd yng Nghymru a'r Gororau.
Roedd seren CBeebies Grace Webb a chyflwynydd poblogaidd S4C Trystan Ellis-Morris ymhlith beirniaid y gystadleuaeth gyffrous.
Ysgrifennodd Tabitha Shields, disgybl blwyddyn pump yn Ysgol Tudno yn Llandudno, Gogledd Cymru, gerdd o'r enw Happy Valley am y gerddi cyhoeddus poblogaidd o'r un enw yn y dref.
Ar ôl gweld yr enw a ddewisodd ar gyfer y trên, dywedodd Tabitha: “Pan gefais i wybod fy mod wedi ennill, o ni'n methu credu'r peth, mae'n anhygoel!”
Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae wedi bod yn wych lansio ein trenau newydd; bydd hyn yn ein helpu i drawsnewid trafnidiaeth i bobl Cymru a’r Gororau.
“Llongyfarchiadau mawr i Tabitha am ennill ein cystadleuaeth. 'Happy Valley' yw'r enw cyntaf a roddir ar ein trên cyntaf, sy'n foment arbennig. Byddwn yn cyflwyno 147 o drenau newydd eraill ac edrychaf ymlaen at weld eu henwau i gyd.
“Yn TrC rydym yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni eisiau annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a pha ffordd well o gynnwys cenedlaethau’r dyfodol yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud, sef gofyn iddyn nhw ein helpu i enwi ein trenau.”
Lansiwyd y trenau Dosbarth 197, a adeiladwyd yng Nghymru gan y gwneuthurwr blaenllaw CAF fel rhan o fuddsoddiad gwerth £800m mewn trenau newydd gan Trafnidiaeth Cymru, yr wythnos diwethaf yng ngorsaf reilffordd Llandudno.