English icon English

Galw ar bobl sydd angen cyngor cyfreithiol i fanteisio arno

Call for people in need to take up legal advice support

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl sydd angen cyngor cyfreithiol i ddod ymlaen a gweld pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw.

Daw hyn wrth i’r argyfwng costau byw barhau i roi pwysau ar gyllid personol pobl a chynyddu’r angen am gymorth gyda phroblemau fel tai, apeliadau am fudd-daliadau lles a dyledion.

Bu Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ymweld â Chanolfan Gyfraith Speakeasy yng Nghaerdydd i weld drostyn nhw eu hunain sut y gall gwasanaethau cynghori cyfreithiol arbenigol helpu pobl.

Mae Canolfan Gyfraith Speakeasy yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, gan fynd i’r afael â phroblemau lles cymdeithasol, gan gynnwys budd-daliadau lles, dyledion, tai a chyfraith cyflogaeth. Cafodd y gwasanaeth ei lansio ym 1992 i helpu pobl sydd wedi’u dal mewn caledi ariannol. Mae’n cyflogi cyfreithwyr a chynghorwyr arbenigol sy’n darparu cyngor, cymorth a chynrychiolaeth gyfreithiol.

Dywedodd Warren Palmer, Cyfreithiwr a Chyfarwyddwr Canolfan Gyfraith Speakeasy:

“Mewn argyfwng costau byw, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn gallu cael cyngor cyfreithiol am ddim pan maen nhw’n wynebu problemau tai, cyflogaeth neu fudd-daliadau. Mae’r gyfraith yn gymhleth ac mae delio â landlordiaid, cyflogwyr a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu bod yn frawychus.”

Mae Canolfannau Cyfraith yn cyflogi cyfreithwyr arbenigol i gynghori cleientiaid yn rhad ac am ddim. Ar hyn o bryd, Canolfan Gyfraith Speakeasy yng Nghaerdydd yw’r unig Ganolfan Gyfraith yng Nghymru, er bod prosiect i sefydlu ail Ganolfan Gyfraith yn y gogledd y gwanwyn hwn.

Er bod nifer o feysydd cyfiawnder heb gael eu datganoli, mae Cronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau cynghori ar draws Cymru gyda thua £11m y flwyddyn o gyllid, gan helpu gwasanaethau cymorth fel Canolfan Gyfraith Speakeasy. Ers i’r gronfa gael ei chyflwyno ym mis Ionawr 2020 mae wedi cefnogi 144,000 o bobl i ddelio â mwy na 660,000 o broblemau lles cymdeithasol. Mae wedi helpu pobl i hawlio £83m o incwm ychwanegol a dileu dyledion gwerth dros £23m.

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Mae Canolfan Gyfraith Speakeasy yn darparu gwasanaeth gwerthfawr ac fe wnes i groesawu’r cyfle i glywed sut mae’n helpu pobl. Gall cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel atal problemau rhag cynyddu a dwysáu, ac rwy’n annog pobl ledled Cymru i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael os oes ei angen arnyn nhw.

“Mae gwasanaethau gwybodaeth a chynghori hyd yn oed yn bwysicach oherwydd y toriadau anferth mewn termau real i gymorth cyfreithiol dros y degawd diwethaf. Mae’r toriadau hyn yn golygu bod cyngor y tu hwnt i gyrraedd mwy a mwy o bobl a bod y baich ar wirfoddolwyr yn cynyddu. Byddwn yn pwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau gwybodaeth a chynghori arbenigol, a’r angen i gynyddu lefelau cyllid, yn adolygiad arfaethedig Llywodraeth y DU o gymorth cyfreithiol sifil.”

Nod Advicelink Cymru – gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Cyngor ar Bopeth a gwasanaethau eraill – yw helpu’r bobl sydd angen gwasanaethau cynghori fwyaf, ble bynnag y maen nhw yng Nghymru. Gellir cael gafael ar y gwasanaeth ar 0800 702 2020.

Dywedodd Luke Young, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor ar Bopeth Cymru:

“Mae’n bwysig bod pobl yn gwybod bod cymorth a chefnogaeth ar gael. Yn Cyngor ar Bopeth gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau lleol sy’n cynnig cyngor arbenigol am ddim, gallwn gadarnhau eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo, a gallwn eich helpu i gael cymorth mewn argyfwng gyda chostau bwyd ac ynni.

“Mae ein gwasanaeth Advicelink Cymru wedi’i gynllunio i helpu’r rhai sydd angen cyngor fwyaf i ganfod ffordd ymlaen. Cofiwch gysylltu â’ch swyddfa leol, ymweld â’n gwefan neu ffonio ein llinell gyngor genedlaethol.”

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Wrth i gyllid pobl gael ei ymestyn fwyfwy mae hyn ond yn cynyddu’r risg o broblemau dyledion, tai a lles.

“Ni ddylai pobl ddioddef mewn tawelwch. Mae cymorth ar gael ac rydym yn annog pobl sydd angen help i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw – mae Advicelink Cymru yn lle ardderchog i ddechrau.”