- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
31 Ion 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi lansio porth WiFi newydd ar y trên, a ddatblygwyd gan GoMedia, sy’n cynnwys gwybodaeth amser real a chyfle i deithwyr roi adborth ar y daith.
Mae'r porth yn defnyddio rhai o'r ffynonellau data gorau yn y busnes a system mapio GPS i ddarparu amseroedd cyrraedd a gadael disgwyliedig, rhifau platfformau, opsiynau teithio ymlaen a llawer mwy.
Mae'r porth newydd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n dangos lleoliad y trên, yr orsaf nesaf a chyrchfan y gwasanaeth. Mae hefyd yn cynnwys ffurflen adborth newydd a ShareMyTrain, nodwedd sy'n caniatáu i gwsmeriaid rannu manylion byw am eu taith gyda ffrindiau a theulu trwy SMS neu WhatsApp - sy'n ddelfrydol ar gyfer trefnu i gwrdd.
Dywedodd Teleri Evans, Rheolwr Strategaeth Gwybodaeth Cwsmeriaid TrC : “Rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella’r modd y darperir gwybodaeth i gwsmeriaid ar ein gorsafoedd a’n trenau, a diwallu gofynion Safonau’r Gymraeg a chwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw.
“Mae ein gwaith diweddaraf gyda GoMedia wedi ein galluogi i wella’r profiad a gaiff ein cwsmeriaid wrth ddefnyddio wifi ar y trên a chyflwyno gwybodaeth amser real ddwyieithog. Mae’r porth newydd yn gwbl hygyrch ac yn diwallu Lefel AA Menter Hygyrchedd y We.”
“Ein porth gwybodaeth amser real newydd yw ein cam diweddaraf lle rydyn ni'n defnyddio data i wella profiad cwsmeriaid ar ein trenau, yn dilyn cynyddu’r data wifi am ddim sydd ar gael o 25mb i 50mb yn 2019 a gosod pwyntiau gwefru at ein holl drenau. Bydd gan ein trenau newydd sbon sgriniau digidol lliw hefyd gyda gwybodaeth fwy, amser real dwyieithog i’n cwsmeriaid.”