English icon English

Ystadegau newydd yn dangos bod mwy na 2,600 o dai fforddiadwy wedi'u hadeiladu yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf

New stats show more than 2,600 affordable homes were built in Wales in the last financial year

Mae ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod 2,676 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi'u hadeiladu yng Nghymru yn 2021/2022.

Parhaodd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i wneud y cyfraniad mwyaf, gan gyflawni 80% o'r cyfanswm.

Unedau rhentu cymdeithasol sy'n eiddo i awdurdodau lleol oedd 18% o'r cyfanswm, gyda 486 o gartrefi newydd.

Pum awdurdod lleol, sef Caerdydd (99 o unedau), Sir Gaerfyrddin (91 o unedau), Abertawe (60 o unedau), Sir Benfro (57 o unedau) a Sir Ddinbych (56 o unedau) oedd yn bennaf gyfrifol am y rhain. 

Mae'r ystadegau'n dangos mai’r ffigwr ar gyfer 2021/22 yw'r trydydd ffigwr uchaf a gofnodwyd er ei fod yn is na’r ffigwr ar gyfer 2020/21 a 2019/20.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Mae pawb yn haeddu cartref diogel a fforddiadwy ac  mae hyn yn sicr yn bwysicach nag erioed wrth i ni wynebu argyfwng costau byw.

"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi sector sy'n wynebu heriau sylweddol yn cynnwys costau deunydd cynyddol, cyfraddau llog uwch a phwysau ar y gadwyn gyflenwi a'r gweithlu.

"Rydym yn parhau i gydweithio'n agos er mwyn darparu cartrefi mwy fforddiadwy o fewn y sector cymdeithasol ac yn parhau i anelu at gyflawni ein targed i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol i'w rhentu yn nhymor y llywodraeth hon, a hynny mor gyflym ag y gallwn."

Mae'r ystadegau llawn ar gael ar-lein yma: Darpariaeth tai fforddiadwy: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 | LLYW.CYMRU